Colli o 4 i 3 oedd hanes Wrecsam wrth chwarae Wealdtone mewn gêm lawn cyffro oddicartref yn Stadiwm Grosvenor Vale y pnawn yma.

Cafodd pedair gôl eu sgorio mewn saith munud, ar ôl i Charlie Wakefield roi Wealdstone ar y blaen yn y 15fed munud.

Ond gyda gôl yn erbyn ei dîm ei hun gan Jerome Okimo bron yn union wedyn, daeth Wrecsam yn gyfartal cyn i Adi Yussuf eu rhoi ar y blaen yn y 18fed munud.

Daeth y sgôr yn ôl yn gyfartal unwaith eto wedi gôl gan Jacob Mendy bedwar munud wedyn.

Aeth Wealdstone yn ôl ar y blaen yn y 57fed munud wrth i gic rydd Alex Dyer osgoi pawb a mynd i mewn trwy’r postyn pellaf.

Chwe munud wedyn, fe wnaeth Michee Efete hi’n 4-2 wrth benio cic gornel gan Jacob Mendy, ac er gwaethaf gôl arall gan Adi Yussuf at ddiwedd y gêm, methodd Wrecsam â rhwystro Wealdstone rhag ennill eu buddugoliaeth gyntaf ers dychwelyd i’r Gynghrair Genedlaethol.