Aberystwyth 2-2 Y Seintiau Newydd

Daeth dechrau 100% y Seintiau Newydd i’r tymor i ben wrth iddynt ddychwelyd o Aberystwyth gyda phwynt yn unig nos Wener.

Ond bydd y tîm cartref yn siomedig na chawsant fuddugoliaeth gofiadwy wrth iddynt groesawu’r tîm ar y brig i Goedlan y Parc wedi iddynt fod ar y blaen gydag ugain munud yn weddill.

Colli Connor

Nid oedd Connor Roberts yn gymwys i chwarae gan ei fod ar fenthyg o’r Seintiau. Golygodd hynny mai Alex Pennock a ddechreuodd yn y gôl i Aber ac roedd ychydig o fai ar y gŵr ifanc ar gyfer gôl gyntaf y Seintiau toc cyn yr egwyl. Gwyrodd ergyd wan Greg Draper yn syth i lwybr Louis Robles a pheniodd yntau i rwyd wag.

Yr hen a ŵyr

Trodd y gêm ar ei phen i waered mewn wyth munud hanner ffordd trwy’r ail hanner. Peniodd Jonathan Foligno Aberystwyth yn gyfartal, y gŵr 39 oed yn rhoi gobaith i ni gyd gyda’i gôl gyntaf ers ymuno o Benrhyncoch yn ddiweddar.

Un arall a symudodd o Benrhyncoch dros yr haf fel rhan o bolisi recriwtio mwy lleol Gavin Allen a oedd y blaenwr, Steff Davies. A’r athro lleol a roddodd y tîm cartref ar y blaen gydag ugain munud yn weddill, yn dangos ei gryfder i gael y gorau o Ryan Harrington cyn llithro’r bêl heibio i Paul Harrison yn y gôl.

Clarke y cawr bach

Gyda buddugoliaeth enwog o fewn cyrraedd, fe ganiataodd amddiffyn Aber i’r chwaraewr lleiaf ar y cae sgorio â’i ben, Ben Clarke yn penio croesiad Chris Marriott i gefn y rhwyd i gipio pwynt i’r Seintiau.

Gorffennodd yr ymwelwyr y gêm gyda deg dyn yn dilyn cerdyn coch hwyr i Tom Holland ond ni chafodd hynny fawr o ddylanwad ar y canlyniad.

*

Derwyddon Cefn 0-2 Pen-y-bont

Mae Pen-y-bont yn aros yn hanner uchaf y Cymru Premier yn dilyn buddugoliaeth oddi cartref dda yn erbyn Derwyddon Cefn ar y Graig ddydd Sadwrn.

Camgymeriadau Cefn

Camgymeriadau’r Derwyddon yn y cefn a arweiniodd at goliau Pen-y-bont. Daeth y gyntaf o’r smotyn i Kane Owen ar ddiwedd yr hanner cyntaf a’r ail i Mael Davies yn dilyn amddiffyn blêr ar ddechrau’r ail hanner.

Gyda chwarter y gemau wedi eu chwarae, nid yw’r tabl yn edrych yn rhy addawol i’r Derwyddon, maent ar y gwaelod gyda dim ond un fuddugoliaeth o’r wyth gêm gyntaf.

*

Hwlffordd 1-1 Caernarfon

Gôl yr un a phwynt yr un a oedd hi wrth i Hwlffordd groesawu Caernarfon i Ddôl y Bont brynhawn Sadwrn.

Dechreuodd y ddau dîm yng nghanol y tabl ac yno maent yn aros wedi gêm gyfartal.

Wynebau newydd

Wrth i’r ansicrwydd barhau ynglŷn â phryd, os o gwbl, y bydd tymor yr ail haen o bêl droed yng Nghymru yn dechrau, manteisiodd clybiau’r Cymru Premier yr wythnos hon gan siopa yn y cynghreiriau is fel dynion canol oed mewn sêl Next.

Bu Caernarfon yn brysur yn chwynnu Prestatyn am rai o oreuon pencampwyr y tymor diwethaf yn y gogledd. Ond efallai mai Hwlffordd a gafodd y fargen orau, yn llwyddo i ddenu Mark Jones, prif sgoriwr y de, o Briton Ferry Llansawel.

Drama hwyr

Nid oedd yr un o’r wynebau newydd hynny ar gael ar gyfer y gêm hon ond chwaraewr cymharol newydd i Gaernarfon a roddodd y Cofis ar y blaen chwarter awr o’r diwedd, Mike Hayes yn rhwydo.

Os oedd gôl Caernarfon yn hwyr, roedd un Hwlffordd yn hwyrach fyth, Danny Williams yn sgorio yn y pedwerydd munud o amser brifo ar ddiwedd y gêm, ei bumed gôl o’r tymor a’i drydedd yn y pedair gêm ddiwethaf.

*

Met Caerdydd 2-1 Y Fflint

Cododd Met Caerdydd dros y Fflint yn y frwydr tua’r gwaelodion y tabl ar Gampws Cyncoed brynhawn Sadwrn.

Ar ôl ennill dwy o’u tair gêm gyntaf, mae’r Fflint bellach ar rediad o bum colled yn olynol wrth iddynt ddechrau sylweddoli fod bywyd yn yr Uwch Gynghrair ddim yn fêl i gyd yn eu tymor cyntaf yn ôl.

Gôl y penwythnos

Daeth gôl y penwythnos toc wedi’r egwyl yn y gêm hon wrth i Dylan Rees roi’r myfyrwyr ar y blaen gyda tharan o ergyd isel o 30 llath.

Ollie Hulburt a gafodd ail y tîm cartref ychydig funudau’n ddiweddarach, yn gorffen yn daclus wedi i Charlie Corsby sodli’r bêl i’w lwybr yn y cwrt cosbi.

Gôl i’r Fflint, o leiaf

Er bod rhediad siomedig y Fflint o ran canlyniadau yn parhau, o leiaf fe wnaethant sgorio yn y gêm hon. Gôl gysur Callum Bratley ddeunaw munud o’r diwedd a oedd eu gôl gyntaf mewn dros 250 munud o bêl droed.

 *

Y Drenewydd 0-2 Y Bala

Parhau y mae tymor siomedig y Drenewydd wedi iddynt golli gartref yn erbyn y Bala brynhawn Sadwrn.

Mae’r Bala yn aros o fewn cyrraedd y timau ar y brig diolch i’w trydedd buddugoliaeth mewn wyth diwrnod.

Dau ben yn well nac un

Roedd dau ben yn well nac un wrth i Nathan Peate roi’r Bala ar y blaen ym munud olaf yr hanner cyntaf. Cafodd ei beniad cyntaf ei atal gan gyfuniad o Dave Jones yn y gôl a’r trawst ond llwyddodd yr amddiffynnwr i rwydo â’i ben ar yr ail gynnig.

Pen arall a sgoriodd ail yr ymwelwyr yn yr ail hanner, un sydd yn llawer mwy cyfarwydd â chanfod cefn y rhwyd, Chris Venables yn sgorio’i nawfed o’r tymor o groesiad cyn chwaraewr Caerdydd, Ryan Pryce.

O Fryn Coch i gerdyn coch

Mae ffans C’mon Midffîld wedi heb arfer gweld George Huws yn sgorio i Fryn Coch ond cerdyn coch a oedd prif gyfraniad George Hughes i’r Drenewydd yn y gêm hon. Cafodd y chwaraewr canol cae ail felyn am drosedd ar Henry Jones yn yr eiliadau olaf, gan arwain at ychydig o gecru diniwed rhwng y rhai yng ngofal cyfrifon Twitter y ddau glwb!

*

Y Barri 0-0 Cei Connah

Os dewisodd camerâu Sgorio yr gêm iawn i’w darlledu’r penwythnos diwethaf gan fwynhau saith gôl yn y Bala, teg dweud nad oedd eu lwc cystal y penwythnos hwn!

Roedd hi’n bell o fod yn glasur ar Barc Jenner, a’r gŵr amlycaf ar y cae a oedd y dyfarnwr, Bryn Markham-Jones, sydd byth yn arwydd da.

O, Bryn bach

Markham-Jones yw un o ddyfarnwyr gorau’r gynghrair heb os ond roedd hon yn gêm i’w anghofio iddo a dichon y byddai Bryn enwocaf y Barri, Wncl Bryn ei hun wedi gwneud yn well!

Daeth digwyddiad mawr y gêm yn y ddau funud cyntaf wrth i John Disney gael ei anfon o’r cae am lorio Curtis Jemett-Hutson. Dehonglodd y dyfarnwr fod Disney yn atal cyfle clir am gôl er i’r drosedd ddigwydd yn y cylch canol gydag amddiffynnwr arall wrth law yn ogystal â’r gôl-geidwad yn dod allan i glirio’r bêl. Penderfyniad dadleuol a dweud y lleiaf.

Fel sydd yn digwydd yn aml, roedd hi’n ymddangos i’r dyfarnwr dreulio gweddill y gêm yn ceisio’i unioni’r cam. Anwybyddodd gais am gic o’r smotyn i’r Barri pan gafodd Sam Bowen ei lorio yn y cwrt cosbi gan Kris Owens yn yr hanner cyntaf a ni chafodd gôl ail hanner Kyle Patten ei chaniatáu oherwydd trosedd honedig Clayton Green ar y golwr, Lewis Brass.

Cotterill yn colli’i ben

Daeth penderfyniad lleiaf dadleuol y noson yn y pumed munud o amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Enillodd David Cotterill 24 cap i Gymru mewn gyrfa broffesiynol lwyddiannus ond aeth y blynyddoedd o brofiad yn angof wrth iddo anelu cic rwystredig at Declan Poole yn eiliadau olaf y gêm.