Fe fydd Morgan Gibbs-White, chwaraewr canol cae newydd Abertawe, allan am dri mis ar ôl torri’i droed.

Fe ddioddefodd e’r anaf yn ystod y gêm yn erbyn Millwall bythefnos yn ôl.

Ymunodd y chwaraewr 20 oed â’r Elyrch o Wolves ym mis Awst, ac mae e eisoes wedi sgorio gôl a chynorthwyo un arall yn ei bedair gêm hyd yn hyn.

Yn ôl Steve Cooper, rheolwr Abertawe, mae’r anaf yn “ergyd i bawb”.

“Roedd e’n gwneud mor dda i ni,” meddai.

“Fe ddaethon ni â fe yma oherwydd roedden ni’n meddwl y byddai’n rhan bwysig o’r tîm, ond mae’r pethau hyn yn digwydd a rhaid i ni weithio’n galed gyda fe i geisio’i gael e’n ôl yn ffit.

“Yn y cyfamser, mae gyda ni ddigon o chwaraewyr o hyd i fod yn gystadleuol dros ben mewn unrhyw gêm rydyn ni’n ei chwarae.”