Mae’r pêl-droediwr Sergio Aguero wedi cael ei amddiffyn yn dilyn beirniadaeth am roi ei fraich ar ysgwydd dyfarnwr cynorthwyol benywaidd yn ystod gêm.

Fe ddigwyddodd yn ystod buddugoliaeth Manchester City o 1-0 dros Arsenal ddoe (dydd Sadwrn, Hydref 17).

Roedd e’n cwestiynu’r penderfyniad i roi tafliad yn ei erbyn e, ac fe gafodd ei weld yn dadlau â Sian Massey-Ellis cyn dechrau cerdded i ffwrdd a rhoi ei fraich am ei hysgwydd.

Dywedodd Micah Richards, dadansoddwr Sky Sports, y dylai ei gyn gyd-chwaraewr fod yn “gwybod yn well”.

Yn ôl y rheolau, gall chwaraewr gael ei gosbi gyda cherdyn melyn neu goch am gyffwrdd â swyddog.

Sylwadau’r rheolwr

Ond yn ystod cynhadledd i’r wasg, fe wnaeth Pep Guardiola, rheolwr Manchester City, amddiffyn y chwaraewr.

“Dewch ymlaen, bois,” meddai.

“Sergio yw’r person mwyaf hoffus wnes i gyfarfod yn fy myw.

“Edrychwch am broblemau mewn sefyllfaoedd eraill, nid yn yr un yma.”