Mae Clwb Pêl-droed West Ham wedi talu teyrnged i James Collins, cyn-amddiffynnwr canol Cymru, yn dilyn ei ymddeoliad gyda neges sy’n cynnig deg rheswm i’w garu.

Enillodd e 51 o gapiau dros ei wlad, ac fe chwaraeodd e hefyd i glybiau Caerdydd, Aston Villa ac Ipswich.

Roedd e’n aelod o garfan Cymru ar gyfer Ewro 2016.

“Fydd hyn ddim yn syndod i’r rhan fwyaf o bobol, gan nad ydw i wedi chwarae ers tymor bellach,” meddai’r Cymro mewn neges ar Instagram.

“Ond gyda chalon drom, dw i wedi penderfynu ymddeol yn swyddogol o bêl-droed.

“Ar ôl meddwl tipyn, dw i’n credu mai dyma’r peth gorau i’w wneud fel y galla i dynnu llinell o dan fy ngyrfa ugain mlynedd a symud ymlaen i’r bennod nesaf yn fy mywyd.”

Deg rheswm i garu James Collins

Yn dilyn y cyhoeddiad, mae Clwb Pêl-droed West Ham wedi talu teyrnged iddo drwy gyhoeddi neges yn awgrymu “deg rheswm i garu James Collins”.

Dywed y clwb ei fod yn “eicon o amddiffynnwr” ac yn “llysgennad go iawn ar ran y clwb”.

Fe dreuliodd e naw tymor gyda’r clwb, gan chwarae iddyn nhw 214 o weithiau yn ystod dau gyfnod yno.

Dyma’r rhesymau sy’n cael eu cynnig:

  1. Fe ddaeth yn ‘Hammer’ yn gynnar, gan symud o Gaerdydd gyda Danny Gabbidon yn 21 oed yn 2005, gan chwarae am y tro cyntaf ddeufis yn ddiweddarach yn erbyn Sheffield Wednesday yng Nghwpan y Gynghrair. Ond fe adawodd y clwb yn 2009, gan ddychwelyd eto yn 2012.
  2. Goliau cofiadwy, ac yntau’n gyn-ymosodwr yn ei ddyddiau cynnar. Mae’r clwb wedi cyhoeddi fideos o’i naw gôl.
  3. Dwy gôl oddi ar ei ben yn ystod gêm gyfartal 2-2 yng Nghwpan FA Lloegr yn erbyn Manchester United yn 2013.
  4. Dyn y gemau mawr oedd e. Yn ystod gêm gyn-derfynol yn erbyn Middlesbrough yng Nghwpan FA Lloegr yn 2006, fe wnaeth e glirio’r bêl oddi ar y llinell ddwywaith i sicrhau buddugoliaeth o 1-0 i’w glwb. Roedd e’n allweddol unwaith eto mewn gêm yn erbyn Manchester United flwyddyn yn ddiweddarach wrth i’w dîm ennill o 1-0.
  5. Byddai bob amser yn barod i wneud hwyl am ei ben ei hun ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys y ffaith iddo golli ei wallt a bod ganddo fe ddull unigryw o chwarae’r gêm weithiau.
  6. Roedd e bob amser yn barod i siarad yn blwmp ac yn blaen, gan gynnwys amddiffyn y rheolwr Slaven Bilic pan fyddai angen.
  7. Ei waith amddiffynnol – yn ystod un gêm yn erbyn Abertawe yn 2015, fe wnaeth e atal y bêl rhag mynd i’r rhwyd oddi ar droed Ki Sung-yueng ac fe gafodd e lwmpyn ar gefn ei ben am ei ymdrechion.
  8. Ei boblogrwydd ymhlith y cefnogwyr – ar ôl gêm yn erbyn Abertawe yn 2017, aeth e draw at y cefnogwyr, neidio i ganol y dorf a dathlu buddugoliaeth gyda nhw. Fe wnaeth e rannu lluniau ar ei gyfryngau cymdeithasol a rhoi ei grys i gefnogwr.
  9. Roedd ganddo fe dipyn o enw am fod yn jocar yn yr ystafell newid, ond fe wnaeth ei gyd-chwaraewyr dalu’r pwyth yn ôl yn 2014, gan roi llun o’i ben ar gorff Miss Cymru ac fe gafodd ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol gan Andy Carroll.
  10. Ei angerdd – “Mae’r neges hon yn dweud y cyfan,” meddai’r clwb am lun ar Instagram lle mae’n gwneud ystumiau ar siâp bathodyn y clwb. Mae’r neges yn gorffen drwy ddweud “Diolch am bopeth, Ginge”.