Mae Clwb Pêl-droed Casnewydd yn dweud eu bod nhw’n bwriadu gofyn i’r chwaraewyr pam na wnaethon nhw belinio cyn eu gêm yn erbyn Tranmere ddoe (dydd Sadwrn, Hydref 17).
Fe ddaeth y weithred yn ddefod cyn gemau pêl-droed i gefnogi ymgyrch Black Lives Matter ar ôl llofruddiaeth George Floyd dan law’r heddlu ym Minneapolis yn yr Unol Daleithiau.
Yn ôl Gavin Foxall, cadeirydd y clwb, wrth siarad â Radio Wales, cyfrifoldeb y dyfarnwr yw galw’r chwaraewyr i benlinio cyn gemau.
Ond mae’r Gynghrair Bêl-droed yn nodi y dylai’r clybiau gytuno rhyngddyn nhw a fyddan nhw’n penlinio cyn pob gêm, ac y dylid rhoi gwybod i’r dyfarnwr ymlaen llaw.
Trafodaeth danllyd
Cafodd y mater gryn sylw ar raglen Call Rob, y rhaglen bêl-droed ar brynhawn Sadwrn ar Radio Wales.
Fe wnaeth Nathan Blake, cyn-ymosodwr croenddu Cymru, herio Gavin Foxall, oedd wedi egluro bod y clwb wedi cefnogi ymgyrchoedd gwrth-hiliaeth eraill.
“Gadewch i fi ddweud hyn, Casnewydd yw hyn… mae fwy na thebyg yn un o’r poblogaethau croenddu mwyaf ym Mhrydain,” meddai Nathan Blake.
“Mae gyda chi gefnogwyr sy’n ddu, gwyn, Asiaidd.
“Onid ydych chi’n teimlo dyletswydd a chyfrifoldeb i’r bobol hynny?”
Ymateb
Wrth ymateb i’r her, dywedodd Gavin Foxall nad oes “lle i hiliaeth yn y gymdeithas, heb sôn am bêl-droed, ac rydym yn cefnogi hynny fel clwb pêl-droed”.
“Dw i ddim yn gwybod pam na ddigwyddodd hynny heddiw,” meddai wedyn.
“Fel dw i’n dweud, mae yna brotocol ar ei gyfer, sy’n cael ei gyflwyno gan y dyfarnwr ynghyd â’r ddau gapten.
“Gallwch fod yn sicr fod y clwb yn cefnogi’r ymgyrch yn llwyr ac rydym am weithredu ar hynny ac mae angen i ni weithredu ar hynny.”