Sgoriodd Sheyi Oji, sydd ar fenthyg o Glwb Pêl-droed Lerpwl, wrth i Gaerdydd guro Preston o 1-0 oddi cartref.

Hon oedd gôl gynta’r asgellwr 23 oed ers 34 mis.

Mae’n golygu bod yr Adar Gleision yn ddi-guro mewn pum gêm gynghrair oddi cartref, a bod Preston yn waglaw yn eu tair gêm ddiwethaf yn y gynghrair.

Dechreuodd Preston yn gadarn, ac fe aeth Brad Potts yn agos gyda chwip o gic rydd a gafodd ei harbed gan wal amddiffynnol Caerdydd.

Funudau’n ddiweddarach, cafodd Alex Smithies ei orfodi i wneud arbediad campus i atal ergyd Sean Maguire.

Tarodd Junior Hoilett foli wrth i Gaerdydd wrthymosod wrth i’r Adar Gleision bentyrru’r pwysau diolch i Kieffer Moore, a ddaeth yn agos i sgorio gyda’i ben oddi ar groesiad Jordi Osei-Tutu.

Daeth cyfle hwyr i Preston cyn yr egwyl ond arhosodd hi’n gyfartal ddi-sgôr.

Sgoriodd yr Adar Gleision y gôl fuddugol saith munud wedi’r egwyl, wrth iddyn nhw wrthymosod unwaith eto.

Tarodd Kieffer Moore y bêl at Sheyi Ojo cyn i hwnnw redeg at yr amddiffyn a tharo ergyd heibio i Declan Rudd i gornel ucha’r rhwyd.

Daeth sawl cyfle aflwyddiannus i Preston yn hwyr yn y gêm, ond safodd amddiffyn Caerdydd yn gadarn.