Gyda’r ffenestr drosglwyddo bellach wedi cau mae chwaraewyr Cymru yn gwybod ble y byddant yn chwarae eu pêl droed clwb am yr ychydig fisoedd nesaf o leiaf. Ac roedd hi’n ambell ddiwrnod prysur i’r rhai a oedd yn rhan o garfan ddiweddaraf Ryan Giggs hefyd.
Y symudiad mwyaf trawiadol wrth gwrs oedd un Joe Rodon i Spurs. Roedd pawb yn gwybod mai Uwchgynghrair Lloegr (neu debyg) a fyddai lefel yr amddiffynnwr canol graenus yn y tymor hir ond amser yn unig a ddengys os mai dyma’r amser iawn, y clwb iawn a’r pris iawn!
Symudiad parhaol arall diddorol a oedd un Joe Morrell o Bristol City i Luton, y chwaraewr canol cae yn aros yn y Bencampwriaeth ond yn ymuno â “chlwb llai” o bosib. Serch hynny, bydd yn fwy tebygol o gael amser ar y cae ar Kenilworth Road, ble mae’r Cymro, Nathan Jones, yn rhoi stamp Cymreig ar garfan a oedd eisoes yn cynnwys Tom Lockyer a Rhys Norrington-Davies.
Symudodd sawl Cymro ifanc ar fenthyg o glybiau mawr yn Uwchgynghrair Lloegr yn oriau olaf y ffenestr ddydd Gwener. Symudodd Harry Wilson o Lerpwl i Gaerdydd, Ben Woodburn o Lerpwl i Blackpool a Matt Smith o Man City i Doncaster.
Fel y disgwyl, mae Chris Gunter wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd gyda Charlton ond mae Ashley Williams, Adam Matthews a Jazz Richards yn parhau heb glybiau.
Ac er nad oedd James Collins wedi chwarae i neb ers iddo adael Ipswich bron i ddeunaw mis yn ôl fe wnaeth ei ymddeoliad yn swyddogol y penwythnos hwn. Diolch am dy wasanaeth Ginge!
Ond, i droi ein golygon at y cae, sut benwythnos oedd hi?
Uwch Gynghrair Lloegr
Roedd ymddangosiad prin o’r dechrau i Daniel James wrth i Man U wneud sawl newid ar gyfer eu taith i Newcastle nos Sadwrn yn dilyn cweir gan Spurs cyn y cyfnod rhyngwladol. Chwaraeodd asgellwr Cymru 75 munud wrth i’w dîm ennill, er mai ar ôl iddo ef adael y cae y daeth y goliau holl bwysig.
Prin iawn a oedd ymddangosiadau gan y Cymry ar wahân i hynny gydag Ethan Ampadu yn eilydd heb ei ddefnyddio i Sheffield Utd ac ar y fainc yn ôl y disgwyl yr oedd Danny Ward i Gaerlŷr.
Spurs a fydd un o’r timau y bydd cefnogwyr Cymru i gyd yn cadw golwg arnynt o hyn ymlaen gyda thri Chymro bellach yn y garfan. Roedd hi’n rhy fuan i Joe Rodon fod yn rhan o bethau yn erbyn West Ham ddydd Sul ac ymddengys fod Ben Davies wedi colli ei le i Sergio Reguilon, y cefnwr chwith a gyrhaeddodd o Real Madrid yn ddiweddar.
Ond un arall a symudodd o brifddinas Sbaen a aeth â sylw cefnogwyr Spurs a Chymru i gyd wrth i Gareth Bale wneud ei ymddangosiad cyntaf ers saith mlynedd a hanner i’r clwb. Daeth oddi ar y fainc ar gyfer y deunaw munud olaf ac ar bapur, mae’n edrych fel (ail) ymddangosiad cyntaf gwael iawn!
Roedd ei dîm dair gôl i ddim ar y blaen pan ddaeth i’r cae ond gorffen yn gyfartal a wnaeth hi wedi i West Ham sgorio tair yn y deg munud olaf. Ar ben hynny, fe gafodd Gareth gyfle i wneud y tri phwynt yn ddiogel pan yr oedd hi’n 3-2 ond llusgodd ei ergyd heibio’r postyn. Er, rhaid pwysleisio mai ef a greodd y cyfle iddo ef ei hun gyda rhediad gwych.
Nid yw Leeds yn chwarae tan nos Lun felly bydd yn rhaid aros i weld all Tyler Roberts achub penwythnos braidd yn siomedig .
Y Bencampwriaeth
Roedd newyddion da i Gymru yn y Bencampwriaeth nos Wener wrth i Tom Lawrence ddychwelyd i dîm Derby yn dilyn cyfnod hir allan gydag anaf, yn dod oddi ar y fainc am yr hanner awr olaf wrth iddynt golli gartref yn erbyn Watford. Beth bynnag a wnewch chi o ymddygiad Lawrence oddi ar y cae, mae rhywun yn dychmygu y bydd yn chwaraewr anodd ei anwybyddu’r haf nesaf os caiff dymor da i’w glwb.
Mae amddiffyn Abertawe un Cymro yn brin ers i Rodon symud i Spurs a ni chafodd Ben Cabango a Connor Roberts gystal hwyl hebddo, wrth iddynt golli o ddwy gôl i un yn erbyn Huddersfield ddydd Sadwrn. Roedd ychydig funudau oddi ar y fainc i Liam Cullen hefyd.
Roedd llechen lân i un arall o amddiffynwyr Cymru serch hynny wrth i Chris Mepham chwarae i Bournemouth mewn gêm ddi sgôr yn erbyn QPR.
Un arall a gadwodd lechen lân gyda Mepham yn erbyn Bwlgaria a oedd Adam Davies, a ddaeth oddi ar y fainc yn dilyn anaf Wayne Hennessey. Aeth y gôl-geidwad heb ildio eto ddydd Sadwrn wrth i Stoke drechu Luton o ddwy gôl i ddim. Ef a oedd yr unig un o bum Cymro Stoke i ymddangos yn y gêm ond dechreuodd Rhys Norrington-Davies i’r gwrthwynebwyr a daeth Joe Morrell oddi ar y fainc ar gyfer ei ymddangosiad cyntaf i’w glwb newydd.
Dechreuodd tri Chymro’r gêm rhwng Wycombe a Millwall brynhawn Sadwrn, Joe Jacobson ac Alex Samuel i’r tîm cartref a Tom Bradshaw i’r ymwelwyr o Lundain. Yn wir, fe wnaeth Jacobson roi’r bêl yng nghefn y rhwyd yn uniongyrchol o gic gornel ond ni chafodd y gôl ei chaniatáu oherwydd trosedd ar y gôl-geidwad!
Colli gartref yn erbyn Norwich a fu hanes Shaun MacDonald gyda Rotherham.
Nid oedd Caerdydd yn chwarae tan ddydd Sul wrth iddynt deithio i Deepdale i wynebu Preston. Rhoddodd hynny ddiwrnod yn ychwanegol o amser adfer i Kieffer Moore a dechreuodd y blaenwr y gêm gan greu unig gôl y prynhawn i Sheyi Ojo.
Rhoddodd y diwrnod ychwanegol ddigon o amser i brosesu trosglwyddiad Harry Wilson hefyd a ni fu’n rhaid iddo aros yn hir am ei ymddangosiad cyntaf, yn dod oddi ar y fainc ar ôl hanner awr yn dilyn anaf i Greg Cunningham. Ymddangosodd Will Vaulkes oddi ar y fainc ar gyfer y deuddeg munud olaf hefyd.
Mae record Caerdydd o feithrin chwaraewyr i’r tîm rhyngwladol wedi bod yn warthus dros y blynyddoedd diweddar ac mae’n braf gweld mwy o Gymry yn eu carfan o’r diwedd, hyd yn oed os mai rhai wedi eu prynu yn hytrach na’u datblygu ydynt. Yn wir, yr unig ŵr o Gaerdydd ar y cae oedd cefnwr chwith Preston, Andrew Hughes.
Cynghreiriau is
Ipswich sydd ar frig yr Adran Gyntaf ac mae’r diolch yn rhannol am hynny i dri Chymro Portman Road. Sgoriodd Gwion Edwards yn eu buddugoliaeth dros Accrington ddydd Sadwrn, ei bumed gôl o’r tymor. Dechreuodd Emyr Huws yng nghanol cae i’r Tractor Boys yn ogystal ac felly hefyd James Wilson yn yr amddiffyn. Cofio fo? Daeth ei unig gap i Gymru fel eilydd yn y gêm honno ym Mrwsel yn 2013 pan gipiodd Chris Coleman bwynt gwych gyda charfan wedi ei chwalu gan anafiadau.
Cymro arall i rwydo yn yr Adran Gyntaf ddydd Sadwrn a oedd George Williams, sgoriodd yr asgellwr un a chreu un arall wrth i’w dîm, Grimsby, drechu Leyton Orient. Roedd Regan Poole yn ddylanwadol wrth i MK Dons guro Gillingham hefyd, yn creu gôl i gyn flaenwr Caerdydd, Cameron Jerome.
Cyfranodd Chris Gunter at lechen lân wrth iddo chwarae 90 munud yn ei gêm gyntaf i Charlton, gyda Lee Evans yn chwarae’r gêm lawn i’r gwrthwynebwyr, Wigan. Cafodd Brennan Johnson 90 munud i Lincoln hefyd yn erbyn Fleetwood a Ched Evans.
Dechreuodd Luke Jephcott i Plymouth a Dion Donohue i Swindon ac fe ddaeth Adam Roscrow oddi ar y fainc i Wimbledon. Cafodd Matt Smith funud neu ddau hefyd, ddiwrnod yn unig ar ôl ymuno â Doncaster.
Yr Alban a thu hwnt
Chwarae 90 munud mewn gemau digon di fflach a oedd hanes y pedwar Cymro yn Uwch Gynghrair yr Alban ddydd Sadwrn. Chwaraeodd Ash Taylor, Ryan Hedges a Marley Watkins wrth i Aberdeen gael gêm gyfartal ddi sgôr yn Dundee Utd. Yr un a oedd y canlyniad wrth i Hibs deithio i Ross County, gyda Christian Doidge yn rhannol gyfrifol am hynny yn ôl pob sôn, yn wastraffus o flaen gôl.
Mae rhywun wastad yn amheus pan fydd chwaraewr yn gadael y garfan ryngwladol gyda “mân anaf” ac yn hanner disgwyl eu gweld yn serennu i’w clwb y penwythnos wedyn ond nid oedd golwg o Aaron Ramsey ar gyfyl carfan Juventus y penwythnos hwn.
Cafodd Rabbi Matondo ei gêm orau dros Gymru ym Mwlgaria ganol wythnos, yn newid y gêm oddi ar y fainc, ond dechrau ar y fainc ac aros arni a oedd ei hanes ddydd Sul wrth i Schalke groesawu Union Berlin.