Bydd gan reolwr Abertawe ddigon o opsiynau wrth i’r Elyrch baratoi i herio Coventry nos Fawrth (Hydref 20) am 7:45yh, er gwaethaf y siom o golli Joe Rodon i Spurs.

Mae’r Elyrch wedi arwyddo 10 chwaraewr newydd yn ystod yr haf.

Gallai Ryan Bennet chwarae i’r clwb am y tro cyntaf ar ôl ymuno ar fenthyg o Wolves i gymryd lle Joe Rodon.

Bydd yr amddiffynnwr Joel Latibeaudiere hefyd yn gobeithio cael chwarae ar ôl ymuno o Manchester City.

Fodd bynnag, ni fydd Morgan Gibbs-White, chwaraewr canol cae newydd Abertawe, ar gael i chwarae ar ôl torri ei droed.