Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y gall chwaraeon proffesiynol barhau yn ystod y clo dros dro, ond bydd holl chwaraeon cymunedol ac amatur yn cael eu hatal.

Cyhoeddodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, prynhawn yma (Hydref 19) bydd clo byr a llym – fire breaker – yn cael ei gyflwyno yng Nghymru o ddydd Gwener, Hydref 23 tan ddydd Llun Tachwedd 9.

“Caniateir i chwaraewyr sy’n gweithio ac yn ennill bywoliaeth drwy chwaraeon i barhau i weithio ac fel pawb arall gallant adael eu cartref i wneud hynny os na allant weithio gartref”, meddai Llywodraeth Cymru.

“Caniateir i gemau sy’n cynnwys chwaraewyr proffesiynol barhau y tu ôl i ddrysau caeedig.

“Bydd pawb sy’n cymryd rhan, fel chwaraewyr, swyddogion a darlledwyr yno fel rhan o’u gwaith.

“Fodd bynnag, bydd y rhaglen elît, a oruchwylir gan Chwaraeon Cymru, yn cael ei hatal yn ystod y cyfnod atal byr hwn.”

Mae campfeydd, canolfannau hamdden, pyllau nofio, clybiau golff a chlybiau tenis ymhlith y cyfleusterau sydd yn gorfod cau yn ystod y cyfnod.

Rygbi

Bydd gêm olaf Cymru yn y Chwe Gwlad erbyn yr Alban, sydd wedi ei aildrefnu, yn cael ei chwarae tu ôl i ddrysau caeedig ym Mharc y Scarlets ddydd Sadwrn, Hydref 31.

Bydd y tîm cenedlaethol hefyd yn cael teithio i Baris i wynebu Ffrainc mewn gêm gyfeillgar ddydd Sadwrn, Hydref 24 – a hynny er gwaethaf cyfyngiadau sydd ar waith ym Mharis.

Gall gemau rhanbarthol hefyd fynd yn eu blaen.

Yr wythnos diwethaf, cynhaliwyd 415 o brofion Covid-19 gan Undeb Rygbi Cymru, ni gofnodwyd unrhyw achosion o’r feirws.

Pêl-droed

Gall Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd chwarae eu gemau cynghrair yn ystod y cyfnod clo.

Fe fydd Merched Cymru hefyd yn rhydd i chwarae dwy gêm ragbrofol Ewro 2021 gartref yn erbyn Ynysoedd Ffaro a Norwy ar Hydref 22 a 27.

Fe fydd y cyfnod clo dros dro wedi dod i ben erbyn i dîm dynion Cymru croesawu Gogledd Iwerddon i Stadiwm Dinas Caerdydd ar Dachwedd 15.