Mae disgwyl i dîm pêl-droed Casnewydd gynnwys tri chwaraewr newydd ar gyfer y gêm yn erbyn Stevenage heno (nos Fawrth, Hydref 20).

Fe wnaeth Jamie Devitt, Jamie Proctor ac Aaron Lewis ymuno â’r clwb cyn i’r ffenest drosglwyddo gau yr wythnos ddiwethaf.

Mae disgwyl i Padraig Amond ddychwelyd i’r ymosod ar ôl cael ei hepgor ar gyfer y fuddugoliaeth dros Tranmere, a bydd Kevin Ellison yn gobeithio am ragor o amser ar y cae ar ôl ymddangos fel eilydd yn erbyn Caergrawnt.

O ran Stevenage, bydd Aramide Oteh yn gobeithio cael ei gêm lawn gyntaf i’r clwb ar ôl symud o QPR ar ddiwrnod ola’r ffenest drosglwyddo.

Daeth e i’r cae fel eilydd yn erbyn Middlesbrough.

Mae Stevenage heb fuddugoliaeth yn eu pum gêm flaenorol.