Mae disgwyl i Harry Wilson ddechrau yng nghrys Caerdydd am y tro cyntaf heno (nos Fercher, Hydref 21), wrth iddyn nhw groesawu ei hen glwb Bournemouth i Stadiwm Dinas Caerdydd.

Treuliodd y Cymro y tymor diwethaf ar fenthyg gyda Bournemouth.

Bydd yr Adar Gleision heb Greg Cunningham ar ôl iddo fe anafu llinyn y gâr yn erbyn Preston yr wythnos ddiwethaf, a bydd Jordi Osei-Tutu a Joe Bennett yn cael profion ffitrwydd.

Ond mae Lee Tomlin yn dychwelyd ar ôl gwaharddiad.

Fe allai’r Cymro David Brooks ddychwelyd i’r ymwelwyr, ynghyd â Josh King a Lloyd Kelly a bydd y triawd yn cael profion ffitrwydd.

Gallai Cameron Carter-Vickers, sydd ar fenthyg o Spurs ac sydd wedi chwarae i Abertawe yn y gorffennol, chwarae ei gêm gyntaf i Bournemouth.