Mae Mike Flynn, rheolwr tîm pêl-droed Casnewydd, yn dweud ei fod e’n falch o berfformiad ei dîm ar ôl iddyn nhw guro Stevenage o 1-0 ar eu tomen eu hunain yn Stadiwm Lamex.

Bu’n rhaid i’r Alltudion frwydro’n galed drwy gydol y gêm ar ôl i Tristan Abrahams eu rhoi nhw ar y blaen o’r smotyn yn dilyn tacl flêr ar Liam Shephard.

Goliau’n unig sy’n eu gwahanu nhw a Chaergrawnt ar frig yr Ail Adran.

“Mae wedi’i sgorio hi, mae e’n hyderus ac ro’n i’n meddwl ei fod e a Saikou [Janneh] yn boen heno,” meddai am berfformiad Tristan Abrahams.

“Wnaethon nhw ddim gorffwys am bum munud ac fe wnaethon nhw redeg a rhedeg a rhedeg, ond fe wnaethon nhw osod y tôn hefyd.

“Mae’n rhaid i Tristan anelu i sgorio cymaint â phosib.

“Fe wnawn ni osod nod o 10 iddo fe a phan fydd e wedi sgorio 10, mae e’n mynd i 15 – does dim diben dweud ’dw i eisiau sgorio 40′ a gosod nodau afrealistig i chi eich hun, mae’n rhaid iddo fe osod targedau realistig.

“Mae’n eithaf amlwg, ond peidied neb â rhedeg i ffwrdd â’r peth.”