Cipiodd tîm pêl-droed Abertawe bwynt yn Coventry neithiwr ar ôl i Andre Ayew unioni’r sgôr i’w gwneud hi’n 1-1.
Aeth y tîm cartref ar y blaen drwy Jordan Shipley ar ôl 19 munud, ar ôl iddo rwydo oddi ar y postyn yn dilyn croesiad Matty Godden ar ymyl y cwrt cosbi.
Ond roedd yr Elyrch yn gyfartal ar ôl 42 munud wrth i Matt Grimes a Jake Bidwell ymosod o’r asgell chwith i fwydo’r bêl i Ayew.
Gallai Coventry fod wedi ennill y gêm wrth i Ryan Giles a Callum O’Hare ill dau fynd yn agos at sgorio tua’r diwedd, ond arhosodd amddiffyn yr Elyrch yn gadarn.
Ymateb
Ar ôl y gêm, dywedodd y rheolwr Steve Cooper nad oedd e’n hapus ar ôl ildio mor gynnar yn yr ornest.
“Do’n i ddim yn hoffi ein perfformiad yn yr hanner cyntaf ac a bod yn onest, ro’n i’n falch o beidio â bod ar ei hôl hi pan gafodd Andre ni’n ôl yn y gêm,” meddai.
“Mae Coventry yn gwneud pethau ychydig yn wahanol yn dactegol ac mae’n rhaid i chi barchu hynny – fe gawson nhw ddyrchafiad y tymor diwethaf oherwydd hynny.
“Wnaethon ni ddim dechrau’r gêm yn ddigon dwys a gwydn a dw i ddim yn hoffi hynny oherwydd, cymaint ag ydw i eisiau i ni chwarae pêl-droed, dw i eisiau i ni fod yn dîm sy’n gweithio’n galed ac yn brwydro a wnaethon ni ddim gwneud hynny’n ddigon da yn yr hanner cyntaf – roedd rhaid i fi ddweud wrthyn nhw i weithio’n galetach i ymateb i Coventry yn yr ail hanner.
“Fe wnaeth mynd ar ei hôl hi roi’r ergyd yn ein hwynebau roedd ei hangen arnom ni.
“Am 25 munud yn yr ail hanner, roedd gyda ni fomentwm ond am ryw reswm, fe wnaethon ni ildio hynny ac ildio gormod o beli i mewn i’r cwrt.
“Wnaethon ni ddim creu digon o gyfleoedd ac oherwydd do’n i ddim yn hoffi ein perfformiad, dw i’n hapus gyda phwynt.”