Gall pobol o gefndiroedd BAME – du, Asiadd a lleiafrifoedd ethnig erill – deimlo eu bod nhw’n cael eu trin yn nawddoglyd neu nad oes digon o gynrychiolaeth iddyn nhw yn y byd chwaraeon ar lawr gwlad, yn ôl ymchwil gan yr elusen Sported.

Mae Sported yn cydweithio â mwy na 2,600 o glybiau cymunedol a ieuenctid ac fe wnaethon nhw gynnal sesiynau trafod yn ystod Awst a Medi eleni yn dilyn protestiadau Black Lives Matter ym mhob cwr o’r byd.

Cafodd unigolion o 15 o glybiau o ystod o gampau o bob rhan o wledydd Prydain eu holi am nifer o faterion yn ymwneud â hil.

Tystiolaeth a chasgliadau

Dywedodd un hyfforddwr paffio croenddu ei fod e’n teimlo iddo gael ei drin yn “nawddoglyd”, tra bod un arall o’r farn nad yw rhai yn ymddiried mewn pobol groenddu i “drin a thrafod arian”.

Dywedodd un arall fod arweinwyr croenddu yn cael eu “cwestiynu dwywaith yn fwy” na neb arall.

Fe wnaeth yr ymchwil hefyd ganolbwyntio ar yr ymdrechion i fynd i’r afael â hiliaeth, gan alw ar Sported i ymgyrchu tros fwy o amrywiaeth ymhlith arweinwyr cyrff llywodraethu chwaraeon.

Un o argymhellion yr ymchwil yw y dylai Sported fynd ati i greu gweithgor Black Lives Matter i drafod canlyniadau’r ymchwil a phenderfynu ar y ffordd ymlaen, gan herio cynghorau a chyrff llywodraethu chwaraeon, a chynnal adolygiad o ragfarn wrth ariannu grwpiau cymunedol.

Ymateb

“Mae pobol groenddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig eraill yn dweud wrthym eu bod nhw’n teimlo eu bod nhw’n cael eu trin yn nawddoglyd a bod diffyg cynrychiolaeth iddyn nhw yn y byd chwaraeon ar lawr gwlad ac yn gymunedol ledled y Deyrnas Unedig,” meddai Nicola Walker, prif weithredwr Sported.

“Fel diwydiant, mae’n amlwg fod angen gwneud llawer mwy.

“Mae Sported wedi ymroi i wella cyfleodd i’n haelodau a’u profiadau, gan ein bod ni’n teimlo mai nhw sydd yn y lle gorau i yrru’r newid rydyn ni am ei weld.

“Rydym hefyd yn gwahodd sefydliadau i gael mewnbwn i gasgliadau’r ymchwil, neu eu rhannu nhw ar draws eu rhwydweithiau eu hunain.”