Mae Liam Williams a Jonah Holmes wedi eu rhyddhau o garfan Cymru.

Bydd Liam Williams ar gael i chwarae i’r Scarlets yn erbyn Benetton nos Wener (Hydref 23), a Jonah Holmes ar gael i chwarae i’r Dreigiau yn erbyn Ulster dydd Sadwrn (Hydref 24).

Bydd Wayne Pivac, prif hyfforddwr Cymru, yn enwi ei dîm yfory (dydd Iau, Hydref 22) ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Ffrainc sydd yn cael ei chynnal y tu ôl i ddrysau caëedig ym Mharis nos Sadwrn.

Bydd Liam Williams a Jonah Holmes yn ailymuno â charfan Cymru yr wythnos nesaf.

Ken Owens allan am bedwar mis

Mae’r Scarlets wedi cadarnhau y bydd Ken Owens allan am hyd at bedwar mis ar ôl cael llawdriniaeth ar ei ysgwydd.

Bydd Josh Macleod hefyd allan tan fis Rhagfyr oherwydd anaf i’w goes.

Cafodd y ddau eu rhyddhau o garfan Cymru yr wythnos ddiwethaf.

Mae Elliot Dee a James Davies eisoes wedi eu galw i’r garfan yn lle Ken Owens a Josh Macleod.