Mae 12 aelod o’r un tîm pêl-droed, sydd heb gael ei enwi, wedi cael dirwy am yfed mewn tafarn ar ôl esgus eu bod nhw i gyd yn byw ar yr un aelwyd.

Fe wnaeth y dafarn yn ne Tyneside ffonio’r heddlu nos Sul (Hydref 18) yn dilyn amheuon bod y criw yn torri rheolau’r coronafeirws drwy ymgynnull – a hynny ar ôl i staff y dafarn fynd atyn nhw i godi eu pryderon.

Cafodd y criw ddirwy yn y fan a’r lle ar ôl i’r heddlu gyrraedd.

Mae’r heddlu’n gwrthod dweud i ba glwb roedd y criw yn chwarae.