Fe fydd tîm rygbi’r Llewod yn wynebu Japan am y tro cyntaf cyn teithio i Dde Affrica y flwyddyn nesaf.

Bydd y gêm gyfeillgar yn cael ei chynnal yn stadiwm Murrayfield yng Nghaeredin ar Fehefin 26.

Yn fuan wedyn, bydd carfan Warren Gatland yn teithio i Dde Affrica, gyda gêm gyntaf y daith wedi ei threfnu yn erbyn y Stormers ar Orffennaf 3.

Chwaraeodd y Llewod gêm gyfeillgar debyg yn erbyn yr Ariannin yng Nghaerdydd cyn y daith i Seland Newydd yn 2005.

‘Tîm talentog Japan’

Cyrhaeddodd Japan rownd yr wyth olaf am y tro cyntaf yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn 2019.

“Gwelsom Japan yn chwarae rygbi rhagorol yn ystod Cwpan y Byd y llynedd a byddan nhw’n dod i Gaeredin i ennill,” meddai Warren Gatland.

“Maen nhw’n dîm talentog sy’n chwarae rygbi tempo uchel, felly bydd hi’n her dda i ni cyn y daith, ac yn gyfle i chwaraewyr ddangos beth sy’n bosib cyn i ni ddewis y garfan ar gyfer y prawf cyntaf.”

Fodd bynnag, mae’r gêm gyfeillgar wedi’i threfnu ar yr un diwrnod â rownd derfynol Rygbi’r Uwch Gynghrair 2021, sy’n golygu na fydd unrhyw un o’r chwaraewyr sy’n cyrraedd y rownd derfynol ar gael i’r Llewod.