Mae’r tîm rygbi cenedlaethol yn cychwyn rhediad prysur o gemau ym Mharis nos Sadwrn yma…

Mae’n rhaid i dîm rygbi Cymru “ddechrau ar nodyn uchel” drwy ennill gêm gynta’r hydref yn erbyn Ffrainc ym Mharis nos Sadwrn, yn ôl y pyndit a’r cyn-chwaraewr, Rhodri Gomer. Gêm gyfeillgar yw hon i dîm Wayne Pivac yn y Stade de France, cyn wynebu’r Alban yng Nghaerdydd yng ngêm olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad wythnos i ddydd Sadwrn (Hydref 31).