Tenau ydi’r llinellau mewn brwydrau gwleidyddol. A, ddechrau’r wythnos, roedd Maer rhanbarth Manceinion, Andy Burnham, yn dilyn llinell ryfeddol o fain.

Ar ôl iddo gael ei weld yn ymladd yn gadarn tros fuddiannau gweithwyr a phobol fusnes ei ardal, mae propaganda Llywodraeth San Steffan yn ceisio perswadio pawb ei fod yn peryglu bywydau.