Mae pob pader sydd ganddi’n cael eu cadw’n saff yn ei phen, yn llinyn o eiriau nad ydi hi’n gwybod sut i’w rhyddhau. Hyd yn oed yn yr eiliadau tawel, myfyrgar. Hyd yn oed pan mae ei phen yn llawn o erfyn neu ymddiheuriadau neu ddiolchgarwch, does ’na neb i ddatgan dim o hyn iddyn nhw.

I bwy ’da ni’n diolch pan ’sgynnon ni ddim Duw?