Mae penderfyniad Llywodraeth Prydain i newid enw Highways England i National Highways yn “ymddyrchafol a sarhaus”, yn ôl Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.
Bydd yr ail-frandio, sy’n digwydd o dan arweiniad Llywodraeth Prydain, yn costio tua £7m, yn ôl y Guardian.
Daw hyn bum mlynedd yn unig ers i’r sefydliad, oedd yn arfer cael ei adnabod fel yr Highways Agency, newid ei enw.
‘Tanseilio datganoli’
“O ystyried obsesiwn Llywodraeth San Steffan hefo troeon pedol ar ein setliad datganoli, mae’r ail-frandio hwn yn anghyfiawn, yn ymddyrchafol ac yn sarhaus,” meddai Liz Saville Roberts.
“Waeth bynnag am gamau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i danseilio grymoedd Cymreig trwy Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig, y gwir o hyd ydi bod y pwerau tros weithredu a chynnal a chadw priffyrdd wedi’u datganoli.
“Mae’n destun mwy na phenbleth fod rhaid atgoffa Llywodraeth y Deyrnas Unedig o’r ffaith yma, dros ugain mlynedd ers sefydlu datganoli.
“Mae’n hen bryd i’r Torïaid dderbyn y realiti a chadw eu dwylo oddi ar ein pwerau datganoledig.”
Mae’r Adran Drafnidiaeth wedi gwrthod gwneud sylw.