Mae myfyrwyr yng Ngwlad Thai wedi gwneud cais i’r llys i ddiddymu stâd o argyfwng a gafodd ei gyhoeddi gan y llywodraeth yr wythnos ddiwethaf i geisio rhoi stop ar brotestiadau.

Mae protestiadau sy’n galw ar i’r prif weinidog Prayuth Chan-ocha i ymddiswyddo, am gyfansoddiad mwy democrataidd ac am ddiwygiadau i’r frenhiniaeth wedi parhau’n ddyddiol.

Mae protestwyr yn ymgasglu am yr wythfed diwrnod yn olynol heddiw (dydd Mercher, Hydref 21) er bod nifer o’u harweinwyr yn y ddalfa a bod stâd o argyfwng yn gwahardd pobol rhag ymgynnull mewn grwpiau o fwy na phedwar o bobol.

Ymateb yr heddlu

Ers dydd Gwener (Hydref 16), mae’r heddlu wedi methu wynebu’r protestwyr yn uniongyrchol.

Yn hytrach, maen nhw wedi ceisio tarfu ar y protestiadau drwy wahardd casgliadau mawr o bobol a cheisio eu rhwystro rhag trefnu protestiadau ar-lein.

Mae’r chwe myfyriwr prifysgol a aeth i’r Llys Sifil heddiw yn dwyn achos yn erbyn Prayuth Chan-ocha, y dirprwy brif weinidog Prawit Wongsuwan a phrif swyddog cenedlaethol yr heddlu Suwat Chaengyodsuk.

Dywedodd y myfyrwyr fod y gorchymyn yn cyfyngu ar eu hawliau ac yn dangos dim parch tuag at y cyfansoddiad.

Wnaeth y llys ddim gweithredu ar eu deiseb ond gallan nhw ddyfarnu ar apêl debyg a gafodd ei chyflwyno gan yr wrthblaid yng Ngwlad Thai ddoe (dydd Mawrth, Hydref 20).

Arestio protestwyr

Mae dau o arweinwyr y protestiadau yn y ddalfa.

Cafodd Parit “Penguin” Chiwarak a Panusaya “Rung” Sithijirawattanakul eu harestio yn ystod protest y tu allan i swyddfa’r prif weinidog ar Hydref 14.

Cawson nhw eu rhyddhau ddoe cyn cael eu hailarestio’n syth am droseddau eraill.

Cafodd protestiwr arall ei arestio heddiw mewn cysylltiad â phrotestiadau’r wythnos ddiwethaf.

Mae Panprasert Suranart wedi cael ei gyhuddo o fod yn rhan o weithredoedd yn erbyn y brenin.

Gallai wynebu dedfryd oes pe bai’n cael ei ddyfarnu’n euog.

Mae Senedd Gwlad Thai yn ailymgynnull ar gyfer sesiwn arbennig yr wythnos nesaf er mwyn delio â phwysau gwleidyddol y protestiadau.

Mae’r llywodraeth hefyd yn ceisio sensro adroddiadau am y protestiadau, ond roedd y cyfryngau’n dal i ddarlledu amdanyn nhw heddiw.