Mae gwleidydd o ‘Blaid Diddymu’r Cynulliad [sic]’ wedi cwyno am ddylanwad y Gymraeg ar wleidyddiaeth yng Nghymru, mewn cyfweliad diweddar ar-lein.

Daeth sylwadau Mark Reckless, Aelod o’r Senedd a ymunodd â’r Blaid wythnos ddiwetha’, mewn cyfweliad ar y sianel YouTube, Reasoned yn ddiweddar.

“Mae yna naws genedlaetholgar i bethau yng Nghymru, sydd yn aml yn seiliedig ar yr iaith Gymraeg,” meddai.

“A dyw’r rhan fwyaf o bobol yng Nghymru, yn fy marn i, ddim yn cefnogi hynny.

“Mae gennym ni gryn dipyn yn gyffredin â Lloegr. Mae mwy yn credu mewn Teyrnas Unedig yng Nghymru nag yn Lloegr.

“Ond er gwaetha’ hynny, rydym yn cael ein gorfodi i dderbyn mwyfwy o bwerau.”

Cyfeiriad yw hyn, o bosib, at grynodeb Business for Scotland sy’n dangos bod mwy o blaid yr undeb yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig.

Mae’r crynodeb hefyd yn dangos bod mwyafrif o wledydd Prydain yn rhanedig ynghylch dyfodol y Deyrnas Unedig.

“Dylanwad” y Cymry Cymraeg

Yn ystod y cyfweliad, fe wnaeth Mark Reckless ddadlau bod y rheiny sy’n ddrwgdybus o ddatganoli wedi dangos apathi hyd yma, ond fod cyfyngiadau Covid Llywodraeth Cymru wedi eu deffro.

Hyd yma, mae Cymry Cymraeg wedi bod yn cael gormod o ddylanwad yn y blychau pleidleisio, meddai.

“Yng Nghymru, mae nifer y bobol sydd wedi symud yma o Loegr … tua’r un faint ag sy’n siarad Cymraeg,” meddai.

“Ond mae’r gwahaniaeth o ran eu dylanwad ar y system, a’r gwahaniaeth o ran ymwneud â materion datganoledig yn anferthol.”

Adeg cyfrifiad 2011, roedd 21% o’r boblogaeth wedi’u geni yn Lloegr, ac roedd 19% o bobol dros dair oed yn medru’r iaith Gymraeg.

Mae data yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn awgrymu bod 28.6% o’r boblogaeth bellach yn medru’r Gymraeg – ond rhoddir mwy o bwys ar ffigurau’r cyfrifiad na’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth. Mae’r cyfrifiad nesaf i’w gynnal flwyddyn nesaf.

O blaid i blaid

Yr wythnos ddiwethaf, fe ddaeth i’r amlwg fod Mark Reckless wedi ildio’r awenau yn arweinydd Plaid Brexit yn y Senedd ac wedi ymuno â ‘Phlaid Diddymu’r Cynulliad [sic]’.

Yn y fideo ar YouTube, mae’n nodi bod “datganoli yn fygythiad i’r undeb”.

Cafodd ei ethol i’r Senedd yn 2016 yn Aelod UKIP ac ers hynny, mae e wedi newid plaid sawl gwaith.

Ar un adeg roedd yn aelod o grŵp y Ceidwadwyr, ac yn dilyn hynny roedd yn aelod annibynnol.

Darren Grimes yw sefydlydd Reasoned a’r cyflwynydd yn y fideo, ac mae wedi bod yn destun ymchwiliad heddlu yn sgil cyfweliad dadleuol â’r hanesydd David Starkey.

Yn ystod y cyfweliad, dywedodd yr hanesydd “nad hil-laddiad oedd caethwasiaeth. Pe bai hynny’n wir fyddai ddim gennych chi gymaint o damn blacks yn Affrica a Phrydain.”