Mae perchnogion busnes yn dweud bod bylchau yng nghynlluniau cymorth y Llywodraeth – sy’n golygu nad yw staff newydd ers Mawrth 19 yn gymwys i dal furlough, a’r teimlad bod llai o gefnogaeth ar gael i fusnesau newydd – yn gwneud hi’n “anodd cadw’r ddysgl yn wastad”.

Mae’r sylwadau hyn wedi dod mewn ymateb i gyhoeddiad y prif weinidog Mark Drakeford y bydd clo cenedlaethol dros dro yn cael ei gyflwyno yng Nghymru o ddydd Gwener, (Hydref 23).

Mae’r economegydd Dr John Ball wedi beirniadu’r eithriadau hyn fel “camgymeriad sylweddol”, sydd wedi arwain at lu o bryderon ymhlith pobol fusnes, wrth iddyn nhw drio dod o hyd i ffyrdd o gynnal eu busnesau a chadw eu staff mewn gwaith.

Anodd “cadw’r ddysgl yn wastad”

“Mae wedi bod yn anodd iawn ar bawb yn yr industry ar ôl y lockdown cyntaf,” meddai Eirian Mai, perchennog ‘Be.You Hair & Beauty’ ym Mangor, wrth golwg360.

“Dwi heb gael dim help ariannol o gwbl drwy’r holl gyfnod gan fod y busnes llai nag blwydd oed.”

“Dwi’n ofn bydd y lockdown nesa ’ma yn cau’r busnes i lawr, ’dan ni dal i drio pigo’n hunain fyny ar ôl y tro cyntaf ond mae’n anodd.”

Dywedodd ei bod wedi colli allan ar rai o gyfnodau prysuraf tymor yr haf a’i bod hi bellach am golli allan ar ddigwyddiadau tymor yr hydref hefyd a hynny, meddai, heb gymorth ariannol.

“Sgynnon ni ddim syniad be sy’n digwydd o ddydd i ddydd.

“Dan ni wedi bod mewn lockdown lleol ym Mangor ers pythefnos yn barod, sydd wedi cael effaith mawr ar y busnes, ’dan ni wedi colli 90% o clients, gan bo’ nhw ddim yn cael dod mewn i’r ardal.”

“Er hynny, mae’ r biliau dal angen eu talu ond does ’na’m digon o arian yn dod mewn i’r salon er mwyn cadw’r ddysgl yn wastad.

“Sut fydda i’n gallu fforddio talu pob dim a dim incwm yn dod mewn?”

Eirian Mai, Perchennog Be.You Hair & Beauty

Y cynllun newydd yn “dda i ddim”

Mae Ken Skates, Gweinidog yr Economi, wedi amlinellu’r gefnogaeth fydd ar gael i fusnesau yn ystod clo byr a llym fydd yn dod i rym.

Mewn ymateb, dywedodd Gwyndaf Jones, perchennog sawl busnes yn ardal Caernarfon, gan gynnwys La Marina yn Y Felinheli nad ydi’r “cynllun newydd yn dda i ddim byd”.

“Dydi’r cynllun newydd da i ddim byd, dio’m am safio dim swyddi,” meddai.

“Fydd ‘na ddim gwaith yma i’r staff.”

La Marina, Y Felinheli

“Dan ni’n rhoi lot ohonyn nhw ar furlough, ond yn anffodus ma’ ‘na flaw yn y plan gynno’r Llywodraeth.”

“Mae’n debyg fydd rhaid i ni adael hanner dwsin o bobl fynd,” meddai.

“Maen nhw (y Llywodraeth) wedi bod yn planio hyn ers tua phythefnos a fysa chdi’n meddwl ‘sa nhw wedi meddwl am y bobol ‘ma ond yn amlwg dydyn nhw ddim.”

“Dydi’r cynllun newydd ddim yn gwneud synnwyr.”

“Camgymeriad sylweddol”

“I mi, mae hynny’n gamgymeriad sylweddol,” meddai Dr. John Ball am gynlluniau’r llywodraeth.

“Dydi busnesau ddim yn cyflogi staff heb reswm, mae busnesau’n cyflogi staff am eu bod nhw eu hangen.

“Mae hynny’n golygu y dylai pob aelod o staff fod yn deilwng o gymorth ariannol, does dim amheuaeth am hynny.”

“Byw mewn gobaith”

“Dwi’n byw mewn gobaith,” meddai Eirian Mai.

“Dan ni’n lwcus iawn bod ein clients mor gefnogol.

“Dwi yn poeni pan fydd petha’ yn mynd yn ôl i “normal” a fydd pobl yn ailfeddwl ac ella yn edrych ar ôl y ceiniogau fwy.

“Mae cael mynd i salon yn rhywbeth luxury, dwi’n poeni fydd pobl yn trio safio pres a dim ond yn gwario ar y petha’ essential.

“Dwi’n poeni fydd hyn yn cael effaith ar fy musnes am amser hir iawn.”