Mae polisi iechyd cyhoeddus Cymru wedi ei “rwystro” gan economeg y Torïaid yn San Steffan, yn ôl Adam Price, arweinydd Plaid Cymru.
Daw hyn wedi i’r Canghellor Rishi Sunak wrthod rhoi mynediad cynnar i fusnesau Cymru i’r Cynllun Cymorth Swyddi estynedig newydd.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno clo dros dro ledled Cymru o ddydd Gwener (Hydref 23) mewn ymdrech i leihau lledaeniad y coronafeirws.
“Mae’n gwbl anealladwy pam bod y Canghellor wedi gwrthod dod â’r Cynllun Cymorth Swyddi ymlaen neu ychwanegu at y cynllun arbed swyddi,” meddai Adam Price.
“Mae hyn yn ymwneud â thegwch.
“Mae polisi iechyd cyhoeddus Cymru wedi ei rwystro gan economeg y Torïaid yn San Steffan.
“Er ei bod yn bwysig cydnabod y camgymeriadau a wnaed gan y ddwy Lywodraeth sydd wedi ein harwain at y pwynt hwn, fel y dywed adroddiad TAC, byddai gwneud dim byd nawr yn arwain at 2,500 o farwolaethau ychwanegol erbyn diwedd y flwyddyn.
“Bydd pythefnos o glo yn achub bron i 1,000 o fywydau.
“Nid yw’n syndod o gwbl bod mwy a mwy o bobol yn ffafrio’r syniad o Gymru annibynnol – bach, llwyddiannus ac yn rhydd o drugaredd San Steffan.”
Llywodraeth Cymru wedi pwyso ar y Canghellor
Wrth amlinellu’r gefnogaeth fydd ar gael i fusnesau yn ystod y clo, eglurodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, fod y prif weinidog Mark Drakeford wedi pwyso ar y Canghellor i roi mynediad cynnar i’r cynllun cymorth.
“Fe wnaethon ni hyd yn oed gynnig talu’r gwahaniaeth rhwng y cyllid ar gyfer pob gweithiwr o dan y cynllun cadw swyddi a’r cynllun newydd, ond mae Llywodraeth y DU hyd yma wedi gwrthod ein cynnig,” meddai.
“Dylai busnesau fod yn gallu derbyn cefnogaeth y Cynllun Cefnogi Swyddi ar gyfer y cyfnod rhwng Hydref 23 a 31, a’r cynllun newydd sy’n dod i rym ar 1 Tachwedd.”