Mae Ken Skates, Gweinidog yr Economi, wedi amlinellu’r gefnogaeth fydd ar gael i fusnesau yn ystod clo byr a llym fydd yn dod i rym ddydd Gwener (Hydref 23)
Bydd yn rhaid i fusnesau a lleoliadau, gan gynnwys tafarndai, bwytai, siopau nad ydynt yn hanfodol, canolfannau hamdden, campfeydd a llyfrgelloedd, oll gau i leihau ymlediad y coronafeirws.
Ond mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwrthod rhoi mynediad cynnar i fusnesau Cymru i’r Cynllun Cymorth Swyddi estynedig newydd.
£300m i helpu busnesau
Mae Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru, a gafodd ei chreu i “gau’r bwlch ym mhecyn cymorth Llywodraeth y Deyrnas Unedig”, eisoes wedi diogelu mwy na 100,000 o swyddi.
“Trwy ddyblu trydydd cam y gronfa, rydym yn neilltuo bron i £300m o gymorth ariannol i’n cyflogwyr bach a chanolig ac i fusnesau yn y sector lletygarwch, twristiaeth a hamdden sy’n gorfod cau’u drysau dros y cyfnod atal byr,” meddai Ken Skates.
“Bydd hynny’n golygu y bydd £150m yn ychwanegol yn mynd yn syth i goffrau busnesau Cymru i’w helpu i dalu eu biliau ac i wrthsefyll yr wythnosau a’r misoedd anodd o’n blaenau.
“Bydd y cyhoeddiad hwn, sydd unwaith eto’n ychwanegol at yr hyn sydd wedi’i gynnig gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, yn helpu i sicrhau bod llawer o fusnesau Cymru’n gallu cadw eu pennau uwchlaw’r dŵr, cynllunio ar gyfer y dyfodol a diogelu’r swyddi y mae ein cymunedau’n dibynnu arnyn nhw.”
Manylion pecyn economaidd newydd Llywodraeth Cymru:
- Taliadau o £1,000 i fusnesau sy’n gymwys am y cymorth ardrethi i fusnesau bach â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai.
- Taliadau o hyd at £5,000 i fusnesau adwerthu, lletygarwch a hamdden sy’n gorfod cau ac sydd â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £50,000.
- Grant chwyddo dewisol o £2,000 i fusnesau sydd wedi gorfod cau neu y bydd y clo dros dor yn cael effaith arnynt.
- Grant dewisol arall o £1,000 i fusnesau y cafodd y cyfyngiadau lleol effaith arnynt am 21 diwrnod neu fwy cyn dechrau’r cyfyngiadau newydd.
‘Llywodraeth y DU yn gwrthod y cynnig’
Mae’r prif weinidog Mark Drakeford wedi ysgrifennu at y Canghellor Rishi Sunak i ofyn iddo roi mynediad cynnar i fusnesau Cymru i’r Cynllun Cymorth Swyddi estynedig newydd o ddydd Gwener.
Ond hyd yma, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwrthod y cynnig.
“Dylai busnesau fod yn gallu derbyn cefnogaeth y Cynllun Cefnogi Swyddi ar gyfer y cyfnod rhwng Hydref 23 a 31, a’r cynllun newydd sy’n dod i rym ar 1 Tachwedd,” meddai Ken Skates.
“Dydy dau fath gwahanol o gefnogaeth ddim yn ddelfrydol.
“Fel esboniodd y Prif Weinidog ddoe rydym wedi pwyso ar y Canghellor i roi mynediad cynnar i’r cynllun cymorth newydd i sicrhau na fyddai’n rhaid iddynt gael mynediad at ddau gynllun yn ystod y cyfnod hwn.
“Fe wnaethon ni hyd yn oed gynnig talu’r gwahaniaeth rhwng y cyllid ar gyfer pob gweithiwr o dan y cynllun cadw swyddi a’r cynllun newydd, ond mae Llywodraeth y DU hyd yma wedi gwrthod ein cynnig.
“Rydym yn parhau i bwyso ar y Trysorlys i wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod cyflogwyr a gweithwyr yn gallu elwa o’r gefnogaeth orau bosibl.”
Yn ôl Plaid Cymru, mae’r Trysorlys yn anwybyddu anghenion Cymru.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal cynhadledd i’r wasg bob dydd yr wythnos hon er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y clo dros dro.