Dydy hi ddim bellach yn wir fod dynion yn fwy tebygol o lawer o gefnogi annibyniaeth i’r Alban na menywod, yn ôl ymchwil newydd.

Roedd dynion yn fwy tebygol o lawer o gefnogi annibyniaeth adeg refferendwm yr Alban yn 2014, a menywod yn fwy tebygol o bleidleisio Na.

Ond yn ôl yr Athro John Curtice, mae’r agendor rhwng dynion a menywod yn lleihau erbyn hyn.

Mae e wedi cyhoeddi darn blog yn dadansoddi canlyniadau polau piniwn diweddar ar annibyniaeth i’r Alban.

Tra bod Ipsos MORI yn nodi bod 58% o Albanwyr o blaid, mae’r ffigwr yn nes at 53% yn ôl Savanta ComRes.

Dadansoddiad

Yn ôl yr Athro John Curtice, mae angen bod yn ofalus wrth ddod i’r casgliad bod mwy o gefnogaeth i annibyniaeth yn yr Alban erbyn hyn.

“Mae hyn yn arbennig o wir o ystyried mai pôl Ipsos MORI oedd eu cyntaf eleni ac felly doedd gennym ni ddim darlleniad blaenorol o gyfnod y coronafeirws er mwyn cymharu â’u darlleniad diweddaraf,” meddai.

“Yr hyn y gallwn ni ei ddweud ar sail y ddau bôl yw fod Ie ar y blaen yn barhaus – naw pôl yn olynol sydd wedi rhoi Ie ar y blaen, sy’n ddarlun cwbl ddi-gynsail.”

Mae’n dweud bod y bwlch yn y gefnogaeth rhwng dynion a menywod, a’r gwahaniaeth yn y grwpiau oedran yn arwyddocaol.

“Ar gyfartaledd, mae’r naw pôl diwethaf wedi rhoi’r gefnogaeth i Ie ar 54%,” meddai.

“Mae’r un naw pôl ar gyfartaledd yn rhoi’r ffigwr ar gyfer dynion a menywod ar 54% hefyd.”

Mae’n dweud bod mwy o bobol ifanc yn cefnogi annibyniaeth na phobol hŷn, tra bod nifer fawr o bobol o bob oed yn ei chael hi’n anodd deall effaith Brexit ar y sefyllfa.

Ymhellach, mae’r rhai oedd wedi pleidleisio Na yn 2014 yn parhau i amau dyfodol economaidd Alban annibynnol er gwaetha’r pryderon am Brexit.