Mae Owen Evans, prif weithredwr S4C, wedi anfon llythyr at wylwyr y sianel yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am gyfnod clo arall, gan ddweud bod gan S4C rôl bwysig i’w chwarae wrth ddod â’r newyddion diweddaraf i’r gwylwyr.

Ychwanega fod S4C wedi buddsoddi yn ei gwasanaeth newyddion, gyda’r brif raglen am 7:30yh bellach ar ei newydd wedd ac mewn stiwdio newydd.

Dywed hefyd fod gan S4C rôl i’w chwarae wrth ddiddanu’r gynulleidfa a bod nifer o gyfresi a gafodd eu comisiynu yn ystod y cyfnod clo yn dychwelyd am gyfres arall.

Mae’r rhain yn cynnwys Sgwrs Dan y Lloer, Y Tŷ Rygbi, Adre ac Y Sioe Fwyd.

Y llythyr

“2020 – y flwyddyn na fyddwn ni byth yn ei hanghofio,” meddai Owen Evans yn ei lythyr.

“Wrth i ni wynebu cyfnod clo arall bydd S4C yn gwmni ac yn gysur i chi drwy’r cyfan.

“Ac rydan ni gyd angen codi ein calonnau dros fisoedd oer y gaeaf ac mae ein cyfres gomedi newydd, Rybish yn siŵr o wneud hynny!

“Beth am wylio cyfres 1 a 2 o Un Bore Mercher, sydd newydd eu rhyddhau ar S4C Clic, cyn i’r gyfres olaf gychwyn ar 1 Tachwedd?

“Diolch am eich cefnogaeth i S4C a chadwch yn ddiogel.”