Mae Jeremy Miles, Cwnsler Cyffredinol Cymru, wedi dweud nad oes sicrwydd na fydd cyfyngiadau lleol yn cael eu hail gyflwyno wedi’r cyfnod clo dros dro.

Ond mae’r Cwnsler Cyffredinol yn dweud y bydd y cyfnod o gyfyngiadau llym yn dod i ben ar Dachwedd 9 hyd yn oed os bydd y ffigurau yn cynyddu bryd hynny.

Ar hyn o bryd mae cyfyngiadau lleol – sydd yn “arafu’r feirws yn hytrach na’i wrthdroi” – wedi’u cyflwyno mewn 15 awdurdod lleol, yn ogystal ag yn nhref Llanelli a dinas Bangor.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno clo dros dro ledled Cymru o ddydd Gwener (Hydref 23) mewn ymdrech i leihau lledaeniad y coronafeirws.

“Ni ddim mewn sefyllfa i roi unrhyw sicrwydd,” meddai wrth siarad â Radio Cymru.

“Y bwriad yw sicrhau fod rheoliadau cenedlaethol yn hytrach na phatrwm o reoliadau lleol – hynny yw ar ddiwedd y cyfnod clo byr.”

Dau opsiwn

Eglurodd Jeremy Miles fod Llywodraeth Cymru wedi ystyried dau opsiwn cyn dod i benderfyniad ar gyflwyno cyfyngiadau newydd.

“Roedd mwy neu lai dau opsiwn gyda ni, yr opsiwn cyntaf oedd cyflwyno cyfnod o gyfyngiadau llym dros bythefnos, yr ail opsiwn oedd cyfnod hirach o gyfyngiadau,” meddai.

“Felly dyma’r dewis rydym ni wedi ei wneud – fod cyfnod byr symlach yn rhoi’r cyfle i ni gyfyngu ar y niwed i bobol a’n heconomi ni.”

Mae’r prif weinidog Mark Drakeford hefyd yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi dewis cyflwyno’r cyfnod clo “byrraf posib” er mwyn lleihau’r  effaith ar iechyd meddwl pobol.