Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi dweud y bydd gweinidogion y Llywodraeth yn cwrdd dros y penwythnos cyn ystyried cyflwyno cyfnod clo llym am gyfnod byr – clo dros dro, neu circuit breaker – ddydd Llun (Hydref 19).

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi y bydd cyfyngiadau atal teithio i Gymru yn dod i rym heno, ac na fydd y cyfyngiadau lleol yng Ngymru yn cael eu llacio.

Mae cyfyngiadau lleol wedi’u cyflwyno mewn 15 awdurdod lleol, yn ogystal ag yn nhref Llanelli a dinas Bangor.

Daeth y cyfyngiadau lleol cyntaf i rym ym mwrdeistref Caerffili ychydig dros fis yn ôl, a’r rhai diweddaraf ym Mangor wythnos diwethaf.

“Y duedd gyffredinol yng Nghymru yw bod y sefyllfa’n gwaethygu,” meddai Mark Drakeford yn ystod cynhadledd i’r wasg brynhawn heddiw.

“Mi’r ydym yn parhau mewn sefyllfa well yng Nghymru nag unrhyw ran arall o’r Derynas Unedig.

“Ond fel llawer o wledydd eraill ledled Ewrop a’r Deyrnas Unedig, rydym yn wynebu sefyllfa ddifrifol iawn.

“Mae nifer yr achosion ledled Cymru yn cynyddu ac mae ein Gwasanaeth Iechyd yn dod o dan bwysau.

“Gan weithio’n agos gydag awdurdodau lleol ac arbenigwyr iechyd y cyhoedd, rydym wedi dod i’r casgliad bod y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn golygu na allwn lacio’r cyfyngiadau, a byddan nhw ar waith am o leiaf saith diwrnod arall.”

Ffigurau

  • Mae bellach mwy na 100 achos i bob 100,000 o boblogaeth Cymru.
  • Y rhif R ar gyfer Cymru yw 1.4.
  • Mae tua 2,500 o bobol yn cael eu haentio bob diwrnod.

Cyfnod clo llym am gyfnod byr

Eglurodd Mark Drakeford fod Llywodraeth Cymru yn “ystyried o ddifri” cyflwyno cyfnod clo llym am gyfnod byr – circuit breaker – fyddai yn para dwy i dair wythnos.

Fe’i disgrifiodd fel “sioc fer, sydyn i’r firws” a allai “droi’r cloc yn ôl, arafu ymlediad y feirws a chynnig a mwy o amser a fyddai’n hanfodol i’r Gwasanaeth Iechyd.

“Byddai fire breaker llwyddiannus yn ail-osod y feirws ar lefel is.

“Ynghyd â set genedlaethol newydd o reolau ar gyfer Cymru gyfan ar ôl y cyfnod fire breaker, byddem wedi arafu’r firws yn ddigonol i’n cael ni drwyddo i’r Nadolig.

“Mae’r rhain yn benderfyniadau anhygoel o anodd ac nid ydym eto wedi dod i gasgliad terfynol ynghylch a fyddwn yn cael cyfnod fire breaker.

“Dydy gwneud dim byd ddim yn opsiwn.”

Disgwylir i Weinidogion drafod dros y penwythnos a bydd y penderfyniad yn cael ei wneud ddydd (Hydref 19).

Cyfyngiadau lleol yn arafu nid gwrthdroi’r feirws

“Mae tystiolaeth ym mhob rhan o Gymru bod y cyfyngiadau hyn, ac ymdrechion pobol leol a gwasanaethau lleol, yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol”, meddai Mark Drakeford.

“Dros y saith diwrnod diwethaf, fodd bynnag, yr hyn y mae’r gwahaniaeth hwn wedi’i wneud yw arafu’r feirws yn hytrach na’i wrthdroi.”

Cyfyngiadau atal teithio i Gymru yn dod i rym heno

Bydd cyfyngiadau i atal pobol sy’n byw mewn ardaloedd yn y Deyrnas Unedig sydd â lefelau uchel o coronafeirws rhag teithio i Gymru, yn dod i rym heno (Hydref 16).

“Er mwyn cadw Cymru’n ddiogel, mae Llywodraeth Cymru felly’n diwygio’r Rheoliadau i’w gwneud yn glir na fyddai pobol sy’n byw mewn ardaloedd lle ceir lefelau uchel o’r coronafeirws yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael teithio i rannau o Gymru lle mae nifer yr achosion yn isel”, meddai Mark Drakeford.

“Mae’n hanfodol ein bod yn cadw cymunedau sydd â lefelau heintio isel mor ddiogel â phosibl, a bydd y cyfyngiad synhwyrol ac angenrheidiol hwn yn helpu i atal y feirws rhag symud o ardaloedd trefol, poblog iawn i ardaloedd llai poblog.”

Mae rhai eithriadau, er enghraifft teithio ar gyfer gwaith neu i ddarparu gwasanaethau elusennol neu wirfoddol os nad oes modd i bobol wneud y rheini lle maent yn byw.

Dosbarthiadau drama neu ddawns

Bydd plant yn cael gadael ardaloedd sydd dan gyfyngiadau lleol i fynychu dosbarthiadau drama neu ddawns yn ogystal a gweithgarethau chwaraeon.

“Rydym yn sylweddoli hefyd bod hwn yn gyfnod arbennig o anodd i blant a phobol ifanc a byddwn yn diwygio’r Rheoliadau i ganiatáu i blant adael eu hardaloedd diogelu iechyd lleol i gymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgareddau eraill fel dosbarthiadau drama neu ddawns, sydd mor bwysig i’w hiechyd a’u lles meddyliol a chorfforol.”

Daw hyn ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi wythnos diwethaf byddai plant yn cael teithio er mwyn cymryd rhan mewn chwaraeon.