Yn siarad mewn cynhadledd i’r wasg brynhawn heddiw (Hydref 9) cyhoeddodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, bydd plant sydd yn byw mewn ardal sydd dan gyfyngiadau lleol, yn cael teithio i du allan i’r sir er mwyn cymryd rhan mewn digwyddiadau chwaraeon awyr agored.

Daw hyn wedi i dros 8,000 bobol arwyddo deiseb yn galw am y newid.

“Ry’n ni’n bwriadu newid y canllawiau i alluogi plant i gymryd rhan mewn chwaraeon os ydy’r rheiny yn digwydd tu allan i ffiniau eu siroedd,” meddai.

“Rwy’n gwybod mai newidiadau bach yw’r rhain mewn darlun cenedlaethol.”

Mae’r newidiadau yma yn berthnasol i’r 12 ardal yng Nghymru sydd dan gyfyngiadau lleol.

Mwy yn mynd i’r ysbyty

Dywedodd Mark Drakeford y bu cynnydd yn nifer y bobol sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty â choronafeirws yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

“Roedd cyfartaledd o 78 o bobol y dydd yn ystod yr wythnos ddiwethaf”, meddai.

Ychwanegodd fod mwy o bobol yn profi’n bositif bob dydd, a bod mwy o achosion o’r coronafeirws mewn cartrefi gofal yng Nghymru.

Cau tafarndai a bwytai?

Dywedodd Mark Drakeford ei fod wedi cael trafodaethau gyda’r trysorlys a gweinidogion o’r Alban ers i Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, gyhoeddi bydd tafarndai a bwytai mewn 5 ardal wahanol yn yr Alban, gan gynnwys yng Nghaeredin a Glasgow, yn cau am bythefnos.

Fodd bynnag eglurodd Mark Drakeford nad oedd yn bwriadu cymryd camau tebyg i’r Alban ar hyn o bryd.

“Pe byddem yn gweld enghreifftiau lle’r oedd y coronafeirws ar gynnydd, oherwydd bod yr achosion hynny’n gysylltiedig â lletygarwch, byddem yn cymryd y camau hynny”, meddai.

“Ond nid yw’r niferoedd sy’n codi yn gysylltiedig â lletygarwch.”

Yn ddiweddarach heddiw bydd y Canghellor Rishi Sunak yn cyhoeddi mwy o gefnogaeth i fusnesau sydd wedi’u gorfodi i gau.

Dywedodd Mark Drakeford ei fod yn hyderus y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhoi’r un gefnogaeth i fusnesau yng Nghymru a fydd ar gael i fusnesau yn Lloegr.

Llwyddiant cyfyngiadau lleol

Er i Lywodraeth Cymru gyhoeddi fod cyfyngiadau lleol wedi eu hymestyn am o leiaf wythnos arall yng Nghaerffili dywedodd Mark Drakeford fod y cyfyngiadau wedi arafu’r cynnydd yn nifer yr achosion o’r coronafeirws.

“Mae’r cynnydd mewn achosion wedi arafu ac mae arwyddion bod y feirws yn dechrau dod o dan reolaeth.

“Mae hynny oherwydd ymdrechion pawb sy’n byw yn yr ardaloedd hyn sy’n cadw at y cyfyngiadau newydd.”

Ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru yn monitro’r cynnydd mewn achosion yng ngogledd Cymru, ac yn cadw llygaid agos ar y sefyllfa yng Ngwynedd, yn bennaf ym Mangor, ble mae nifer o achosion yn gysylltiedig â myfyrwyr a phobol ifanc.

Yn ystod y gynhadledd fe gyhoeddwyd graffiau yn dangos cyfradd nifer yr achosion ymhob 100,000 o’r boblogaeth fesul sir: