Mae dynes o Benrhycoch yng Ngheredigion wedi osgoi carchar am achosi marwolaeth Cynghorydd Plaid Cymru.

Bu farw Paul James, 61, a oedd yn gynghorydd Plaid Cymru yn ward Llanbadarn Fawr, mewn gwrthdrawiad gyda dau gar ar yr A487 fis Ebrill y llynedd.

Roedd Lowri Powell, 44, wedi ei chael yn euog o achosi marwolaeth Paul James trwy yrru’n ddiofal, wrth iddo wrth feicio ar yr A487 rhwng Waunfawr a Chommins Coch, fis yn ôl.

Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener, fe gafodd Lowri Powell ei dedfrydu i chwe mis o garchar wedi ei ohirio am ddwy flynedd, a’i gwahardd rhag gyrru am 12 mis gan y Barnwr Geraint Walters.

Roedd Paul James yn hyfforddi ar gyfer taith feicio o Aberystwyth i Abertawe pan gafodd ei daro.

Roedd wedi gobeithio codi £10,000 ar gyfer wardiau cardiaidd Ysbytai Bronglais a Threforys ar ôl cael triniaeth yno ei hun.

Cefndir

Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Paul James, Lowri Powell, a Christopher Jones i gyd yn teithio tuag at Aberystwyth pan darodd drych car Lowri Powell y beiciwr wrth iddi ei basio.

Achosodd hyn i’r dyn 61 oed ddisgyn i’r ffordd, gyda char  Christopher Jones yn ei daro a’i lusgo ar hyd y ffordd.

Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw Paul James yn y fan a’r lle.

Cafwyd Christopher Jones yn ddieuog o achosi marwolaeth trwy yrru’n ddiofal.