Mae Archesgob Cymru wedi rhybuddio bod pobol yn anghofio am y digartref oherwydd pandemig y coronafeirws.

Mewn neges ar gyfer Dydd Sul Digartrefedd dros y penwythnos (Hydref 11), mae’r Archesgob yn annog pobol i weddïo dros bobol ddigartref.

Mae Dydd Sul Digartrefedd yn fenter gan yr elusen Gristnogol, Housing Justice, sy’n gofyn i bobol fyfyrio ar ddigartrefedd a’r materion sy’n ymwneud â digartrefedd yng ngwledydd Prydain.

“Mae Covid-19 wedi achosi dioddefaint mewn nifer fawr o fywydau,” meddaiJohn Davies, yr Archesgob sydd hefyd yn Gadeirydd Housing Justice Cymru.

“Un o’r problemau yw bod rhywbeth fel hyn weithiau’n gallu cysgodi neu’n arwain at bobol yn anghofio bod yno argyfyngau eraill ym mywydau nifer o bobol, ac mae digartrefedd yn un o’r rhain.

“Felly ar Ddydd Sul Digartrefedd, rwy’n galw arnoch i ffocysu eich gweddïon a cheisio ymrwymo i wneud beth allwch chi i dynnu sylw eraill sydd â’r gallu i wneud rhywbeth i helpu sefyllfa’r rheini sy’n ddigartref – eu pryderon ac ansicrwydd a’r peryglon maen nhw’n wynebu o ddydd i ddydd.”