Mae Heddlu’r De wedi dweud eu bod yn ymateb i gyfartaledd o 40 o adroddiadau am dorri rheolau’r coronafeirws yn ddyddiol, gydag un dyn o Gaerdydd yn derbyn dirwy am fynd am beint i’r Rhondda.
Dywed yr heddlu bod y neges i’r rhai sy’n gwrthod cydymffurfio â’r rheolau yn un syml: “Rydym yn gallu gorfodi’r rheolau a byddwn yn gwneud hynny.”
Ers i gyfyngiadau lleol gael eu cyflwyno yng nghanol mis Medi, mae’r heddlu wedi gorfod ymateb i ddigwyddiadau megis:
- Dyn wedi ei ddirwyo am deithio droeon o Gaerdydd i’r Rhondda i gael peint;
- Gyrrwr wedi ei ddirwyo am yrru o Aberystwyth i Ferthyr er mwyn prynu fan;
- Person wedi ei ddal yn cynnal parti i 12 o bobol yn y Rhondda,
- Dynes o Abertawe wedi dychwelyd i’r gwaith ar ôl bod ar wyliau, er bod yn rhaid iddi hunan-ynysu.
“Rydym yn gallu gorfodi’r rheolau a byddwn yn gwneud hynny”
Mae un o benaethiaid Heddlu’r De wedi dweud y “dylai pawb fod yn chwarae eu rhan er mwyn gwarchod y bobol rydym yn eu caru a’r Gwasanaeth Iechyd rydym i gyd yn dibynnu arno.
“Ein blaenoriaeth ydi cadw de Cymru yn saff ac rydym yn ddiolchgar i aelodau’r cyhoedd sy’n gwneud y peth iawn a’n galluogi ni i wneud hynny,” meddai’r Prif Uwcharolygydd Andy Valentine.
“Mae gennym neges syml i’r rheini sy’n torri’r rheolau drwy gynnal a mynychu partïon, anwybyddu cyfyngiadau teithio, neu beidio cadw at anghenion hunan-ynysu, rydym yn gallu gorfodi’r rheolau a byddwn yn gwneud hynny.”