Mae busnesau yng Ngwynedd wedi bod yn ymateb i benderfyniad Cyngor Gwynedd i ystyried – a hynny “ar frys” – y posibilrwydd o godi tâl ar dwristiaid sy’n ymweld â’r Parc Cenedlaethol, ac yn benodol yr Wyddfa.
Yn ôl y Cynghorydd Glyn Daniels: “Rwy’n cynnig fod Cyngor Gwynedd, mewn cydweithrediad â Pharc Cenedlaethol Eryri, yn ymchwilio ar frys i’r posibilrwydd o godi tâl ar ymwelwyr sy’n ymweld â rhannau o’r Parc, yn arbennig felly ar, ac o amgylch, yr Wyddfa ei hun.
Pantri, Llanberis
Mewn ymateb i’r datblygiad, dywed rheolwr caffi Pantri yn Llanberis, Hayley Griffiths:
“Mi fysa codi tâl ar dwristiaid i fynd fyny’r Wyddfa yn dod a refeniw i mewn i warchod y llwybrau ac yn rhoi pres yn y pot i alluogi pobl i edrych ar ôl yr ardal.”
Ychwanegodd nad yw yn “deg i fod yn dibynnu ar wirfoddolwyr” i ofalu am lanhau’r ardal.
Wrth holi ynglŷn ynghylch y pryder y gallai codi ar dwristiaid i ymweld gyda’r ardaloedd gael effaith negyddol ar ei busnes, dywedodd Hayley Griffiths:
“Yn ystod y lockdown, mi oedd pobl yn dod yma a parcio lle’r odden nhw’n licio ac wedyn yn cael £30 o ffein, ac yn gweld o fel cheap day out.
“Maen nhw’n mynd i ddod yma beth bynnag, ond mae’n rhaid i ni fod yn gall o ran y ffioedd rydan ni’n ofyn, dim ond digon i allu cyfro’r costau.”
Dywed bod prysurdeb yr Wyddfa yn ystod y cyfnod diweddar wedi bod yn “hollol wirion”.
Black Boy, Caernarfon
Perchennog busnes arall sydd wedi croesawu’r datblygiad yw John Evans o dafarn y Black Boy yng Nghaernarfon.
“Dw i’n meddwl bod o’n dda i godi tâl ar dwristiaid, yn enwedig o ran yr Wyddfa, mae yna gostau ynghlwm gyda hynny ac ar y funud y bobl leol sydd yn talu, drwy dalu trethi.”
Mae John Evans yn dweud bod dyletswydd ar dwristiaid i fod yn cyfrannu tuag at gostau cynnal a chadw’r mynyddoedd, y llwybrau a’r ardal leol.
“Dydw i ddim yn meddwl fysa’n cael effaith arna ni o gwbl, ma’ pobl digon bodlon i dalu i fynd i fyny’r Wyddfa ar y trên, felly pam ddim wrth gerdded?
“Fel arfer, mae pobl yn ddigon bodlon i dalu am yr hyn maen nhw’n ei ddefnyddio.”
Yn ôl y dyn busnes, ni fyddai codi arian am fwynhau’r ardal yn atal twristiaid yn cadw ymwelwyr draw.
“Dydw i ddim yn dweud i ni dwyllo nhw, na’u cosbi nhw. Ond dw i’n meddwl ddylsa nhw fod yn talu am yr hyn maen nhw’n eu defnyddio ac mae yna lot o bobl yn cael eu cyflogi i edrych ar ôl y mynyddoedd, am eu bod nhw’n cael cerdded i fyny ac i lawr am ddim.
“Pan mae’n dod i dwristiaid, mae’n rhaid i ni gymryd eu pres nhw rŵan, fel bod nhw’n cadw ni fynd yn y Gaeaf.”