Bydd protest yn cael ei chynnal ym Môn yfory i dynnu sylw at yr “argyfwng ail gartrefi” ar yr ynys, gyda Rhun ap Iorwerth yr Aelod o’r Senedd lleol yn annerch y dorf.

Yn ôl y trefnwyr, y grŵp ‘Gorau i Gymru – Best for Wales’, mae “cynnydd brawychus” wedi bod mewn ail gartrefi ar yr ynys yn ddiweddar.

Mae Gorau i Gymru yn galw am gynyddu treth cyngor ar ail gartrefi, rhoi cap o 5% ar y nifer o gartrefi gwyliau ym mhob cymuned, ac atal caniatâd cynllunio ar gyfer rhagor o gartrefi gwyliau ar yr ynys.

Daw hyn yn dilyn gorymdaith o Nefyn i Gaernarfon a phrotest ddiweddar tu allan i swyddfeydd Cyngor Gwynedd i dynnu sylw at y broblem yng Ngwynedd.

Cynhelir y brotest ddiweddaraf yn Llangefni ddydd Sadwrn (Hydref 1) am 11 y bore.

Criw Cyngor Tref Nefyn yn protestio tu allan i swyddfeydd Cyngor Gwynedd

36% o dai wedi’u gwerthu fel cartrefi gwyliau

Yn ôl Oswyn Williams, un o drefnwyr y brotest, mae 36% o’r holl dai a gafodd eu gwerthi ar Ynys Môn eleni wedi’u gwerthu fel ail gartrefi.

“Mae pobol yn dod yma a dwyn ein tai, yn lladd ein hiaith, ac yn lladd ein cymunedau,” meddai wrth golwg360.

“Rydym ni wedi trefnu’r digwyddiad hwn i dynnu sylw at yr argyfwng tai sy’n wynebu Ynys Môn.

“Dydy pobol leol a phobol ifanc yn methu â phrynu cartrefi yn eu cymunedau eu hunain ar hyn o bryd.

“Blynyddoedd yn ôl, bythynnod oedd yn cael eu prynu, ond dyddiau yma mai stadau cyfan o dai yn cael eu hadeiladu ar eu cyfer.

“Fel mae’n mynd, erbyn bydd yr hen anwyd yma drosodd, fydd yna ddim tai ar ôl yn Sir Fôn.”

‘Dim llais yn Llundain’

“Mae’n annheg, does gan bobol Sir Fôn ddim llais yn Llundain, mi’r yda ni’n ddibynnol ar Hywel Williams a Liz Saville Roberts o siroedd cyfagos i siarad dros Ynys Môn”, meddai Oswyn Williams.

“Mae yn rhaid i ni wneud rhywbeth am hyn rŵan, dod a’r broblem yma i’r wyneb a sefyll yn gadarn cyn bydd hi rhy hwyr.”

Ychwanegodd y bydd yr Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth ac eraill yn annerch y dorf.

Mae Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Ynys Môn, wedi gwrthod cais golwg360 am ymateb.