Fe fydd Cynllun Cymorth Swyddi Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael ei ymestyn i amddiffyn swyddi a chefnogi busnesau sy’n gorfod cau oherwydd cyfyngiadau yn sgil y coronafeirws.

Bydd y Llywodraeth yn cefnogi busnesau cymwys trwy dalu dwy ran o dair o gyflog pob gweithiwr, hyd at uchafswm o £2,100 y mis.

“Trwy gydol yr argyfwng nid yw ein polisi economaidd wedi newid”, meddai’r Canghellor Rishi Sunak

“Dw i i wedi dweud ers y dechrau y byddwn yn gwneud beth bynnag sydd rhaid i amddiffyn swyddi a bywoliaethau wrth i’r sefyllfa ddatblygu.

“Bydd ehangu’r Cynllun Cymorth Swyddi yn darparu rhwyd ddiogelwch i fusnesau ledled y Deyrnas Unedig y mae’n ofynnol iddynt gau eu drysau dros dro, gan roi’r gefnogaeth gywir iddynt ar yr adeg iawn.”

Ni fydd rhaid i gyflogwyr gyfrannu tuag at gyflogau, dim ond cyfraniadau NICS a phensiwn.

Rhaid i weithwyr fod i ffwrdd o’r gwaith am o leiaf saith diwrnod yn olynol i fod yn gymwys am y grant.

Cydweithio gyda’r gwledydd datganoledig

Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithio gyda’r llywodraethau datganoledig yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon i sicrhau bod y cynllun yn gweithredu’n effeithiol ar draws y pedair gwlad.

Cyhoedded y Canghellor hefyd y bydd y gwledydd datganoledig yn elwa o gynnydd o £1.3bn i’w cyllid ar gyfer 2020-21 – er mwyn caniatáu iddynt barhau â’u hymateb i Covid-19.