Mae nifer yr achosion o’r coronafeirws yn nhref Llanelli yn parhau i fod deirgwaith yn uwch na rhannau eraill o Sir Gaerfyrddin, ond mae’n ymddangos bod y camau y mae pobol yn y dref yn eu cymryd yn gwneud gwahaniaeth, gyda nifer yr achosion fesul 100,000 o bobol yn cwympo o 152 i 99.9.
Mae cyfyngiadau mewn lle yn Llanelli – yr unig dref yng Nghymru i gael cyfyngiadau o’r fath – ers Medi 26.
Mae Arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi rhybuddio efallai bydd angen cyflwyno cyfyngiadau ar gyfer y sir gyfan yn ogystal â thref Llanelli.
“Yn ystod y pythefnos diwethaf, mae cyfradd yr haint wedi gostwng yn raddol, ac mae hyn yn destun calondid – nid yw’n golygu ein bod allan o berygl eto”, meddai’r Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor.
“Os bydd cyfradd yr haint yn parhau i ostwng, efallai y gallwn godi’r mesurau ychwanegol hyn sydd wedi’u gosod ar bobl Llanelli.
“Os nad ydyw, neu os bydd achosion yn parhau i gynyddu mewn rhannau eraill o’r sir, efallai y bydd yn rhaid i ni wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar fwy o bobol.
“Rydym wedi bod yn monitro’r achosion ym mhob rhan o’r sir yn ofalus iawn.”
Cyfraddau i bob 100,000
Pan gyflwynwyd y cyfyngiadau lleol roedd 152 achos i bob 100,000 o’r boblogaeth yn Llanelli.
Mae’r data diweddaraf yn dangos bod cyfradd yr haint bellach yn 99.9 i bob 100,000 o’r boblogaeth.
Y gyfradd ar gyfer gweddill Sir Gaerfyrddin, ac eithrio ardal Llanelli, yw 33.9 i bob 100,000 o’r boblogaeth.
Mae cyfradd gyffredinol yr haint ar gyfer Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys ardal Llanelli, wedi codi i 53.5 achos i bob 100,000 o’r boblogaeth.
Mae’r cyfyngiadau lleol yn cael ei hadolygu’n wythnosol.
‘Chwarae ein rhan’
Mae Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi annog pobol yn ardal y Bwrdd Iechyd i barhau i ddilyn y canllawiau.
“I ddiogelu ein hiechyd ein hunain ac iechyd ein hanwyliaid a chymunedau ehangach – o’r bobl sy’n heini ac yn iach i’r bobl sy’n fwy agored i niwed – mae’n rhaid i bob un ohonom chwarae ein rhan”, meddai.
“Arhoswch gartref os oes gennych unrhyw symptomau a threfnwch brawf.
“Ni ddylai fod angen i chi deithio’n rhy bell i gael prawf gan fod gennym gapasiti profi da ar draws Sir Gaerfyrddin.
“Ac os cewch alwad ffôn gan swyddog olrhain cysylltiadau, byddwch yn onest â nhw.”