Mae merch o Rwmania sy’n dysgu siarad Cymraeg wedi dweud wrth golwg360 ei bod hi’n “dod i nabod diwylliant Cymru drwy ddysgu’r iaith”.
Gadawodd Alex Tudur ei mamwlad naw mlynedd yn ôl, gan symud i Loegr er mwyn mynychu ysgol fonedd.
Mae hi bellach wedi priodi Cymro o’r enw Gwilym Tudur, sy’n weinidog yng Nghapel Seion, ac wedi ymgartrefu yn Aberystwyth.
“Fe gipiodd o mi i ffwrdd i Aberystwyth a dw i’n hapus iawn yma, mae’n ardal fendigedig,” meddai.
“Dysgu iaith y wlad ti’n byw ynddo yn normal”
“Mae fy ngŵr yn siarad Cymraeg felly dw i isio gallu siarad Cymraeg efo fo,” meddai Alex Tudur mewn cyfweliad trwy gyfrwng yr iaith Saesneg gyda golwg360.
“Dw i’n meddwl bod dysgu iaith y wlad ti’n byw ynddo yn normal ac yn dy alluogi i ddod i nabod diwylliant y wlad.
“Pan mae rhywun yn dod i Rwmania ac yn dysgu Rwmaneg mae hynny yn meddwl lot imi, oherwydd mae’n dangos eu bod nhw eisiau bod yn rhan o’r diwylliant ac yn ymddiddori yn y wlad.
“Drwy ddechrau dysgu Cymraeg, dw i wedi dod i ddysgu mwy am Gymru ac yn teimlo mod i’n dod yn rhan o’r gymuned Gymraeg sydd yma.
“Dw i hefyd yn hoffi’r syniad o allu siarad efo pobol leol yn eu hiaith nhw.
“Mae’n lot o hwyl mynd o gwmpas y dref oherwydd mae fy ngŵr yn gallu dweud pwy sy’n gallu siarad Cymraeg drwy edrych arnyn nhw,” meddai dan chwerthin.
“Haws dysgu efo pobol eraill sy’n dysgu’r iaith”
Dim ond ers pythefnos mae Alex Tudur wedi bod yn cael gwersi Cymraeg, er iddi wneud defnydd o’r ap dysgu ieithoedd Duolingo yn ystod y cloi mawr.
“Mae hi bendant yn haws dysgu efo pobol eraill sy’n dysgu iaith, er bod y gwersi dros Zoom a ddim yr un fath a bod wyneb yn wyneb,” meddai.
“Rydan ni wedi dod i adnabod ein gilydd ac mae pawb wedi dysgu lot ers i ni ddechrau.
“Dw i’n cael cyfle i ymarfer pan dw i gyda fy ngŵr ac yn y Capel, er mod i ddim yn hyderus iawn.”
Mae Alex Tudur wedi rhannu ei hoff air Cymraeg gyda golwg360.
“Dw i wir yn hoff o’r gair pen-blwydd hapus oherwydd cefais faner gan fy ngŵr yn dweud pen-blwydd hapus ar fy mhen-blwydd ac mae o dal gen i rŵan,” meddai.
Hoff o “angerdd y Cymry dros eu gwlad a’u hiaith”
Un o’r pethau sydd wedi taro Alex Tudur ers iddi symud i Gymru ydi “angerdd y Cymry dros eu gwlad a’u hiaith.”
“Mae pobol wedi bod mor groesawgar yma, dw i ddim wedi gweld hyn mewn unrhyw wlad arall… mae pobol mor amyneddgar a chlên.
“Dw i wrth fy modd gydag angerdd y Cymry dros eu gwlad a’u hiaith a dw i’n credu bod hynny yn beth prydferth ofnadwy.
“Dw i’n berson angerddol hefyd, rydan ni’n bobol feisty yn Rwmania.”