Mae achosion coronafeirws wedi’u cadarnhau yn Ysgol Uwchradd Llangefni ac Ysgol Gynradd Talwrn ar Ynys Môn

Daw hyn ar ôl i ddau ddisgybl sy’n mynychu’r ysgol uwchradd ac un disgybl sy’n mynychu’r ysgol gynradd dderbyn prawf positif.

Cafodd rhieni a staff eu wybod gan gorff Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gynharach heddiw.

Nid oes tystiolaeth ar hyn o bryd i awgrymu bod y feirws wedi ymledu o fewn yr ysgolion a bydd dosbarthiadau sydd heb eu heffeithio dal i fynd yn eu blaen.

Daw hyn ar ôl i achosion gael eu cadarnhau yn Ysgol Corn Hir, Ysgol y Borth, Ysgol Llanfechell, Ysgol Gymuned y Fali ac Ysgol Parc y Bont yr Ynys Môn.

“Mae’r achosion newydd yma’n amlygu bod coronafeirws dal yn fygythiad go-iawn i’n hysgolion yn ogystal â’r gymuned ehangach,” meddai Prif Weithredwr Cyngor Môn, Annwen Morgan.

“Mae’n bwysicach nag erioed i ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru; yn enwedig o ran yr aelwyd i gyd yn hunan-ynysu os oes rhywun yn dangos symptomau neu os ydynt yn derbyn cyngor i wneud hynny gan swyddog olrhain cysylltiadau.”

“Ein blaenoriaeth yw lles ein disgyblion, staff a’r gymuned ehangach, a byddwn yn parhau i weithio’n agos gydag ysgolion er mwyn ceisio cyfyngau ar ledaeniad y feirws.”