Mae Prif Weinidog Cymru wedi ymateb ar ôl i Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, aildrydar beirniadaeth o gynlluniau cloeon lleol Cymru.

Gofynnwyd i’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, am ei sylwadau ar aildrydariad Mr Trump yn ystod cynhadledd coronafeirws Llywodraeth Cymru ddydd Gwener (9 Medi).

“Rwy’n credu bod y trydariad y gwnaeth yr Arlywydd ei ail-drydar yn dweud ‘pe bai Joe Biden yn cael ei ethol, yna gallai’r Unol Daleithiau edrych fel Cymru’,” atebodd Mr Drakeford.

“Mae llawer iawn o bobl yn yr Unol Daleithiau a fyddai wrth eu bodd pe bai ganddynt y lefelau o’r coronafeirws sydd gennym ni, pe bai ganddynt y math o wasanaeth iechyd sydd gennym ni, a phe bai ganddynt lywodraeth sy’n cynnal busnes ar ran eu poblogaeth yn y ffordd drefnus a gofalus ry’n ni’n ei wneud ar ran poblogaeth Cymru.

“Felly rwy’n credu y bydd llawer o bobl [yn America] wedi darllen y trydariad hwnnw a meddwl ‘och, pe gallai hynny fod yn wir!’”