Bydd cyfyngiadau coronafeirws lleol yn dod i rym ym Mangor am 6 o’r gloch heno (nos Sadwrn, Hydref 10).

Fe ddaw yn sgil cynnydd sylweddol mewn achosion o’r feirws dros y dyddiau diwethaf, gyda thua dau draean o achosion newydd Gwynedd yn y ddinas.

Mae disgwyl i’r niferoedd godi eto dros yr wythnosau i ddod.

Beth mae’r cyfyngiadau’n ei olygu?

Yn ôl y cyfyngiadau, bydd yn rhaid i bobol:

  • osgoi teithio i mewn ac allan o Fangor heb reswm dilys – e.e. teithio i’r gwaith os nad oes modd gweithio gartref, teithio ar gyfer addysg neu i gael triniaeth feddygol
  • osgoi cyfarfod â phobol o aelwydydd gwahanol dan do, a pheidio â ffurfio aelwydydd estynedig
  • osgoi mynd i Fangor o lefydd eraill yng Ngwynedd a thu hwnt oni bai bod rheswm dilys fel y rhai uchod

Bydd siopau’r ddinas ar agor i drigolion lleol yn unig, gan gynnwys y parc manwerthu a Tesco ar Ffordd Caernarfon.

Dylai pobl sy’n byw y tu allan i’r ddinas wneud pob ymdrech i osgoi ymweld â siopau Bangor yn cynnwys yr ardaloedd man-werthu ar gyrion y ddinas, am y tro, a dim ond ymweld os ydyn nhw’n prynu eitemau hanfodol ac nad oes dewis rhesymol arall heblaw am ddefnyddio siopau ym Mharth Iechyd Bangor.

Bydd arwyddion yn atgoffa pobol o’r cyfyngiadau ar y ffyrdd i mewn i’r ddinas.

Ymateb lleol

Dywed y cynghorydd Dyfrig Siencyn, arweinydd Cyngor Gwynedd, fod y Cyngor yn cefnogi penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno’r cyfyngiadau lleol.

“Bydd gweithredu rŵan yn helpu i arafu’r cynnydd sydyn mewn achosion positif yn y ddinas, yn torri’r gadwyn drosglwyddo ac yn diogelu trigolion Bangor yn ogystal â’r gymuned ehangach yma yng Ngwynedd,” meddai.

“Rydym yn llwyr werthfawrogi y bydd y cyhoeddiad yma yn cael effaith ar bobl ac ar fusnesau’r ddinas.

“Ond trwy gymryd y camau hyn rŵan, y gobaith yw y byddwn yn gallu osgoi mesurau llymach fyddai’n aflonyddu mwy ar fywydau pobl yn hwyrach ymlaen.

“Ein gobaith yw i ddod a normalrwydd yn ôl i Fangor cyn gynted â phosib.

“Er bod y mesurau hyn yn gyfyngedig i Fangor ar hyn o bryd oherwydd y cynnydd cyflym mewn achosion yn y ddinas, nid oes lle i drigolion mewn ardaloedd eraill o Wynedd laesu dwylo.

“Rhaid i ni i gyd chwarae ein rhan wrth ddilyn canllawiau cenedlaethol Covid-19 i amddiffyn ein hunain, ein hanwyliaid a’r gymuned ehangach. Trwy wneud hynny, gobeithiwn allu osgoi’r angen am fesurau tebyg i weddill y sir.”

‘Erfyn’ 

“Fu hi erioed cyn bwysiced i bawb sy’n byw ym Mangor i ddilyn cyngor ac arweiniad yr holl asiantaethau sy’n gyfrifol am reoli’r sefyllfa hon, sy’n datblygu drwy’r adeg,” meddai Dr Robin Howe, Cyfarwyddwr Digwyddiad ar gyfer ymateb i’r Coronafeirws ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru.

“Rwy’n erfyn arnoch i ymddiried ynom, i ymddiried yn ein negeseuon a phan rydym yn cyfathrebu â chi. Gall arbed bywydau.

“Rydym yn ymwybodol fod cam-wybodaeth yn cylchredeg yn gyhoeddus. Felly os gwelwch yn dda defnyddiwch ffynonellau gwybodaeth y gellir ymddiried ynddyn nhw yn unig, sef yr awdurdod lleol, Iechyd Cyhoeddus Cymru, y bwrdd iechyd lleol a Llywodraeth Cymru.”

Er bod cyfyngiadau lleol mewn grym, mae disgwyl i drigolion Bangor barhau i ddilyn y cyfyngiadau cenedlaethol hefyd, gan gynnwys:

  • cadw pellter cymdeithasol bob amser
  • aros gartref os ydych chi neu unrhyw un o’ch aelwyd yn datblygu symptomau
  • os ydych chi’n datblygu symptomau, trefnwch i gael prawf
  • os bydd y tîm Profi, Olrhain a Diogelu yn cysylltu â chi, dilynwch eu cyngor a hunan-ynysu os oes angen
  • gweithio o gartref pryd bynnag y bo hynny’n bosib
  • osgoi rhannu ceir
  • gwisgo gorchudd wyneb neu fwgwd pan byddwch dan do mewn mannau cyhoeddus
  • golchi dwylo’n rheolaidd.