Mae’r elusen iechyd meddwl Advance Brighter Futures yn galw ar bobol y dref i beidio â dioddef mewn distawrwydd yn ystod y cyfnod clo diweddaraf.
Daw hyn ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, sy’n cael ei gynnal bob blwyddyn ar Hydref 10, gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl ledled y byd.
Y thema eleni yw ‘iechyd meddwl i bawb’, sy’n ceisio cefnogi pobol sydd wedi eu heffeithio gan bandemig y coronafeirws.
Mae’r rhain yn cynnwys gweithwyr gofal iechyd, myfyrwyr, y rhai sydd wedi colli eu gwaith, pobol mewn tlodi, y rhai sydd eisoes yn dioddef o gyflyrau iechyd meddwl a’r rhai sy’n galaru.
Dywed Advance Brighter Futures eu bod nhw wedi gorfod addasu’r ffordd maen nhw’n darparu gwasanaethau yn sgil y pandemig coronafeirws.
“Wedi’r cyfan, yn ôl un arolwg mae dros hanner y boblogaeth yng Nghymru wedi teimlo effaith Covid-19 ar eu hiechyd meddwl,” meddai Lorrisa Roberts, prif swyddog Advance Brighter Futures.
“Rydan ni wedi symud llawer o’n gwasanaethau i fod ar-lein, gan gynnwys ein gwasanaethau cwnsela yn ogystal â datblygu gwasanaethau newydd, fel Wellbeing Wednesday.”
Cefnogi bron i 450 o bobol ledled Wrecsam ers mis Ebrill
“Rydan ni hefyd yn cynnig gwasanaeth check-in i frwydro yn erbyn unigrwydd,” meddai Lorrisa Roberts wedyn.
Dywed Advance Brighter Futures eu bod nhw wedi cefnogi bron i 450 o bobol ledled Wrecsam, gan ateb 600 o alwadau ffôn check in.
Un o’r bobol sydd wedi derbyn cefnogaeth gan Advance Brighter Futures ydi Fiona Edwards, 57, sy’n dweud bod yr elusen “wedi rhoi fy mywyd yn ôl i mi”.
Daeth hi o hyd i’r elusen bum mlynedd yn ôl, wrth geisio ymdopi ag OCD a gorbryder.
“Mae Advanced Bright Futures wedi rhoi fy mywyd yn ôl i mi a dwi’n byw fy mywyd yn nawr yn hytrach na goroesi’n unig,” meddai.
“Ro’n i’n gallu dweud yn syth ’mod i’n ddiogel a ddim yn mynd i fod yn ffeil â rhif iddynt yn unig.
“Cyn i mi dderbyn help, doedd dim modd i mi deithio ar fws oherwydd fy mhryder ac OCD.
“Erbyn heddiw, dwi’n gallu mynd ar fws, a gwneud hynny’n rheolaidd. Dwi ‘di mynd o fod yn berson oedd yn derbyn cefnogaeth gan Advanced Bright Futures i fod yn wirfoddolwr yn yr elusen, gan gefnogi eraill.”
Adroddiad yn datgelu sut mae’r pandemig wedi effeithio iechyd meddwl yng Nghymru
Mae’r pandemig coronafeirws wedi cael effaith drychinebus ar iechyd meddwl pobol ifanc yng Nghymru, yn ôl Pwyllgor yn y Senedd.
Dywed yr adroddiad fod plant a phobol ifanc yng Nghymru yn ei chael hi’n anodd derbyn cefnogaeth iechyd meddwl.
Mae aelodau o’r Pwyllgor Plant, Pobol Ifanc ac Addysg yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i helpu plant a phobol ifanc.
Er eu bod nhw’n cydnabod fod gwaith da wedi cael ei wneud mewn ysgolion, dydy newidiadau i wella’r sefyllfa ar draws gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys y Gwasanaeth Iechyd a llywodraeth leol, ddim yn digwydd yn ddigon cyflym.