Mae Dyfodol i’r Iaith yn galw am Weinidog penodol i’r Gymraeg ar ôl i Eluned Morgan dderbyn cyfrifoldeb ychwanegol am iechyd a lles meddwl.
Fe ddaw ar ôl y penderfyniad y bydd Vaughan Gething yn canolbwyntio ar iechyd yn unig yn sgil yr ymdrechion i frwydro’r coronafeirws.
Yn ôl Heini Gruffudd, cadeirydd y mudiad, fe fu’r Gymraeg yng ngofal gweinidogion sydd â chyfrifoldebau eraill ers blynyddoedd.
“Roedd y Prif Weinidog Carwyn Jones, er tegwch iddo, wedi ysgwyddo baich y Gymraeg, ond roedd yn amhosib iddo roi blaenoriaeth i’r Gymraeg.
“Yna daeth Brexit ac yn awr Covid-19 a materion iechyd cysylltiedig.
“Dyw hi ddim yn bosib i’r holl feysydd sy’n gysylltiedig â’r Gymraeg gael tegwch gan Weinidog mewn trefn fel hon.”
‘Tawelwch’
Er yr addewid gan Lywodraeth Cymru y byddai is-adran y Gymraeg yn datblygu’n gorff dylanwadol, dywed Heini Gruffudd y bu “tawelwch ers hynny”.
Ac mae wedi ategu’r alwad am sefydlu Awdurdod Cenedlaethol “i gydlynu cynllunio ieithyddol yng Nghymru ar draws holl feysydd cyfrifoldebau’r llywodraeth”.
“Rydyn ni am i’r Awdurdod fod yn un annibynnol heb ddibynnu fod ar fympwy llywodraeth.
“Mae’r sylw ymylol a gaiff y Gymraeg yn nhrefn y Llywodraeth yn profi’r angen am Awdurdod Cynllunio Ieithyddol hyd braich.
“Mae’n hanfodol ei fod yn cydweithio â Gweinidog fydd yn gallu rhoi ei holl sylw i’r Gymraeg.
“Mae Covid-19 wedi peri argyfwng i gymunedau Cymraeg, ac i weithgareddau diwylliannol y Gymraeg.
“Mae brys ychwanegol, felly i sefydlu Awdurdod Iaith Cenedlaethol fydd ag adnoddau a grym i gydlynu a sbarduno adfywiad yr iaith. Ac mae angen Gweinidog y Gymraeg fydd yn gallu rhoi ei sylw cyfan i hyn.”