Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi datgelu bod twyll rhamant wedi costio £1.3m i bobol sy’n byw yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Phowys.

Ers mis Ionawr, mae gwerth dros £1.3m o dwyll wedi’i adrodd wrth yr heddlu, ac mae tîm twyll Heddlu Dyfed-Powys wedi helpu i atal £92,000 rhag cael ei golli i droseddwyr.

Mae’r heddlu’n bwriadu addysgu pobol am beryglon twyll rhamant, fel rhan o ymgyrch ymwybyddiaeth ledled y Deyrnas Unedig.

“Mae twyll rhamant yn drosedd arbennig o greulon oherwydd mae’n cymryd mantais o angen pobol am serch,” meddai Rebecca Jones, Swyddog Diogelu Rhag Twyll.

“Bu 2020 yn flwyddyn anodd i bawb, yn enwedig y rhai sydd wedi treulio wythnosau neu fisoedd ar eu pennau eu hunain neu wedi’u gwahanu oddi wrth eu hanwyliaid.

“Mae twyllwyr yn gwybod yn iawn pa mor bell aiff pobol i chwilio am gariad neu gyfeillgarwch, a dyna pam y mae’r broblem fawr hon dal yn tyfu.”

“Pobol yn teimlo cywilydd am gael eu twyllo”

Ychwanegodd Rebecca Jones fod natur sensitif twyll rhamant yn golygu bod methiant difrifol o hyd o ran rhoi gwybod amdano.

“Mae pobol yn teimlo cywilydd am gael eu twyllo, yn aml ar ôl agor eu calonnau am eu dyheadau neu deimladau preifat,” meddai.

“Nid mater o golli arian yn unig yw hyn: gall twyll rhamant gael effaith barhaol ar les corfforol a meddyliol dioddefwyr, eu perthnasau â ffrindiau a theulu, a’u gallu i ymddiried mewn partneriaid posibl yn y dyfodol.

“Ond does dim angen teimlo cywilydd – troseddwyr proffesiynol yw’r bobol hyn sy’n targedu’r rhai sy’n chwilio am berthynas gariadus bur yn fwriadol.

“Byddwn yn annog unrhyw un sydd â phryderon am berthynas ar-lein, waeth pa mor sefydledig yw hi, i gysylltu.

“Drwy adrodd am eich amheuon, fe allech helpu i ddiogelu’ch hun neu rywun arall rhag dioddef trosedd.”