Mae pobol flaenllaw yng Nghymru wedi cael eu hanrhydeddu yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd Brenhines Loegr eleni.

Yn eu plith mae Warren Gatland, prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, a’r cyn-chwaraewr Gareth Thomas, am ei waith yn ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth o HIV. Mae’r ddau yn derbyn CBE.

Mae’r capten Alun Wyn Jones yn derbyn OBE.

O fyd y celfyddydau, mae CBE hefyd i’r gantores Rebecca Evans a Linda Tomos, Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol.

Yn derbyn OBE hefyd mae’r newyddiadurwraig Melanie Doel ac Euryn Ogwen Williams am ei wasanaeth i’r byd darlledu.

Mae MBE i’r hyfforddwr bocsio Colin Jones.

Mae’r BEM yn mynd i’r newyddiadurwraig a darlledwraig Jayne James, ac i Alun Guy am ei wasanaeth i’r byd cerddoriaeth yng Nghymru.

Gweithwyr iechyd

Ym mlwyddyn y coronafeirws, mae lle blaenllaw ymhlith y rhai sydd wedi’u hanrhydeddu i weithwyr iechyd.

Yn eu plith mae Catherine Moore o Iechyd Cyhoeddus Cymru, y meicrobiolegydd Robin Ridley-Howe, pennaeth ystadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Neil Pearce a’r nyrs Liz Waters o Grughywel o’r un bwrdd iechyd, sydd wedi bod yn gweithio yn ystod y pandemig ar ôl dal y feirws.

Anrhydeddau ledled gwledydd Prydain

Ledled gwledydd Prydain, mae MBE hefyd i’r pêl-droediwr Marcus Rashford a’r hyfforddwr ffitrwydd Joe Wicks, a hynny am ymdrechion a gwaith ymgyrchu’r ddau yn ystod ymlediad y coronafeirws.

Mae anrhydeddau hefyd i’r Fonesig Mary Berry, y gogyddes deledu, ac i’r Fonesig Maureen Lipman, yr actores.

Mae’r actor David Suchet a’r diddanwr Tommy Steel wedi’u hurddo’n farchogion gan dderbyn y teitl ‘Syr’.

Mae CBE hefyd i’r cyflwynwyr teledu Lorraine Kelly a’r Athro Brian Cox.

Mae’r anrhydeddau fel arfer yn cael eu rhoi ym mis Mehefin, ond fe gawson nhw eu gohirio eleni er mwyn anrhydeddu gweithwyr iechyd a gweithwyr allweddol.

Dyma’r rhestr lawn.