Mae’r newyddiadurwr Simon Calder wedi cael rhybudd i “ff** off ac aros yn Lloegr” ar ôl annog pobol i deithio i Gymru yn ystod cyfyngiadau’r coronafeirws.
Fe wnaeth y gohebydd, sy’n adnabyddus am ei erthyglau teithio, ymddangos ar y rhaglen deledu This Morning yn gynharach yr wythnos hon ac awgrymu y dylai pobol ddod i Aberystwyth a Machynlleth ar wyliau – heb gyfeirio at y cyfyngiadau coronafeirws lleol sydd mewn grym.
Yn dilyn beirniadaeth chwyrn ers y rhaglen, mae Calder wedi defnyddio’i golofn yn yr Independent i ddweud na fydd e’n dychwelyd i Gymru ar ôl cael y fath ymateb, ac mae e wedi denu cannoedd o ymatebion – rhai yn fwy chwyrn nag eraill – wrth bostio’r erthygl ar ei dudalen Twitter.
Yr erthygl
Yn ei erthygl yn yr Independent, mae e wedi achub ar y cyfle i egluro pam ei fod e wedi annog pobol i ddod i Gymru.
Mae’n dweud nad yw’n syndod fod “y llywodraeth yng Nghaerdydd yn cyfeirio darpar-dwristiaid tua chanolbarth Cymru” wrth i “ddinasoedd gwych y de a sawl ardal hardd yng ngogledd Cymru gael eu cloi’n lleol”.
Mae’n dweud ei fod e’r “un mor frwdfrydig â’r bwrdd twristiaeth [Croeso Cymru] am hyfrytwch Cymru sy’n ymestyn o Glawdd Offa i Fae Ceredigion”.
Mae’n dweud mai pwrpas ei ymddangosiad ar y teledu oedd “siarad am rannau’r Deyrnas Unedig y gallai teuluoedd eu hystyried ar gyfer hanner tymor Hydref”, ac fe wnaeth e hefyd argymell Belffast a Chaeredin gan ddweud bod hynny “cyn cyfyngiadau newydd y llywodraeth ar y brifddinas”.
‘Heclo’
Mae e’n mynd yn ei flaen wedyn i egluro’r ymateb gafodd ei erthygl yng Nghymru.
“O’r mawredd, pan wnes i enwebu Machynlleth, Aberystwyth a’r holl orsafoedd hyd at Bwllheli fel brêc hydref yng Nghymru, roedd pobol eisiau heclo,” meddai.
Mae’n cyfeirio at Kenneth Pedrick o Aberteifi sy’n cwestiynu pam ei fod e “eisiau anfon y Saeson i arfordir gorllewinol Cymru i’n heintio â’r feirws pan fo’n un o’r ychydig lefydd ar ôl ym Mhrydain heb ei heintio”.
Mae’n dweud bod ei alw’n “chwilen” yn un o’r sylwadau mwyaf cwrtais dderbyniodd e.
Ac fe ddywedodd iddo gael rhybudd gan Dion Humphreys o Borthmadog i “ff** ac aros yn Lloegr”.
Dywedodd Ffion Elen wrtho fod anfon pobol i Gymru yng nghanol y pandemig yn “hollol anghyfrifol” a bod pobol yng Ngheredigion eisiau cadw’r ardal yn rhydd rhag y feirws.
Cyfiawnhad
Ond mae’r erthygl hefyd yn mynd yn ei flaen i gyfiawnhau ei resymau dros annog pobol i ddod i Gymru, gan ddweud nad yw’n dweud unrhyw beth gwahanol i’r diwydiant twristiaeth.
Mae’n dweud iddo gysylltu â sawl person oedd wedi anfon negeseuon ato ar Twitter “mewn ymgais i atal rhagor o sarhad” ac i “dynnu sylw at yr aliniad rhyfeddol rhwng fy argymhellion a rhai’r asiantaeth dwristiaeth Gymreig”.
“Dw i’n deall pryderon dwys unrhyw gymued sy’n ofni pobol o’r tu allan yn lledaenu’r feirws ffiaidd yma,” meddai wedyn.
“Yn gwbl briodol, mater i bobol Cymru yw penderfynu a fydd twristiaid yn cael ymweld â’r genedl, pryd a pha rai.
“Mae cysyniad cwarantîn yn targedu ymwelwyr o rannau o Loegr lle mae risg uchel, fel gafodd ei amlinellu gan y gweinidog iechyd Cymreig yr wythnos hon, yn un cymwys.
“Ond yn y cyfamser, mae yna economi dwristiaeth i’w chefnogi.”
Mae’n cydnabod fod lleisio barn yn y cyfryngau’n debygol o arwain at “ymateb cadarn”.
“Dw i’n derbyn beirniadaeth ac yn ceisio dysgu ohoni,” meddai.
“Ond dw i erioed wedi wynebu’r fath sarhad dwys ag y gwnaeth fy sylwadau, a gafodd eu gwneud â bwriad da, ei ennyn yr wythnos hon.
“Efallai y bydd yr ymatebwyr yn ystyried effaith eu hymateb ar y cyd i fod fel llwyddiant mawr. Dw i’n dymuno’n dda iddyn nhw.
“O safbwynt anrhydeddus rhywun sy’n gallu mynegi eu safbwynt yn y cyfryngau, dw i’n dweud yn syml iawn: yn yr amserau anodd hyn, mae twristiaid yn gynyddol werthfawrogi rhinweddau caredigrwydd, goddefgarwch a chroeso.”