Mae Siân Gwenllian a Hywel Williams yn galw am roi cefnogaeth i fusnesau lleol Bangor yn dilyn y cyhoeddiad bod cyfyngiadau lleol yn cael eu cyflwyno yn dilyn cynnydd mewn achosion o’r coronafeirws.

Fydd dim hawl gan bobol i deithio i mewn ac allan o’r ddinas heblaw bod ganddyn nhw reswm dilys, gan gynnwys teithio i’r gwaith, i’r ysgol neu i dderbyn triniaeth feddygol.

Bydd y cyfyngiadau’n dod i rym am 6 o’r gloch heno (nos Sadwrn, Hydref 10), ac mae Siân Gwenllian, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, ac Aelod Seneddol Plaid Cymru Hywel Williams yn ofni’r effaith ar fusnesau’r ardal.

“Roedd y cyfyngiadau lleol iawn hyn ar gyfer dinas Bangor, yn drist iawn, yn anochel ac yn ymateb uniongyrchol i ddata sy’n dangos cynnydd mewn achosion yn y ddinas ei hun,” meddai’r ddau mewn datganiad ar y cyd.

“Rydym hefyd yn deall fod gan Brifysgol Bangor baratoadau manwl yn eu lle.

“Byddem yn apelio ar bawb i barchu’r cyfyngiadau newydd hyn ac yn annog pobol leol ledled Arfon i gymryd gofal ychwanegol.

“Bydd angen cefnogaeth briodol gan y llywodraeth ar y busnesau sydd wedi’u heffeithio gan y cyfyngiadau newydd hyn er mwyn gwneud yn iawn am yr effaith andwyol ar fasnach.”