Mae Armenia ac Azerbaijan wedi cytuno i gadoediad i ddod ag anghydfod i ben yn Nagorno-Karabakh.
Dydy’r union fanylion ddim wedi cael eu cadarnhau eto, ond fe ddywedodd diplomyddion o’r ddwy wlad fod cyfnewid carcharorion a dod o hyd i gyrff meirwon yn rhan o’r trafodaethau.
Mae disgwyl i ragor o fanylion am y cadoediad gael eu cyhoeddi maes o law.
Ond er iddyn nhw ddod i gytundeb, mae’r naill yn dal i gyhuddo’r llall o dorri’r cadoediad gydag ymosodiadau o’r newydd.
Daw’r cyhoeddiad ar ôl deg awr o drafodaethau ym Mosgo dan arweiniad Sergey Lavrov, Gweinidog Tramor Rwsia.
Anghydfod
Dechreuodd y brwydro ffyrnig rhwng Azerbaijan ac Armenia ar Fedi 27, a chafodd cannoedd o bobol eu lladd.
Asgwrn y gynnen oedd pwy sy’n rheoli Nagorno-Karabakh, ardal sydd yn Azerbaijan ond a fu dan reolaeth lluoedd Armenia ers 1994.
Roedd Armenia yn ddigon bodlon cytuno ar gadoediad, ond roedd Azerbaijan yn mynnu bod rhaid iddyn nhw dynnu milwyr allan o’r ardal ac nad oedd ganddyn nhw ddewis ond ymosod yn filwrol.
Mae lle i gredu bod Azerbaijan wedi dod yn gynyddol anhapus nad oedd gwledydd y gorllewin wedi camu i mewn cyn hyn i ddatrys y sefyllfa ar ôl tri degawd.
Yn ôl lluoedd arfog Nagorno-Karabakh, mae 404 o filwyr wedi marw ers Medi 27 ond mae degau o bobol gyffredin hefyd wedi’u lladd ers hynny.
Mae Armenia wedi bod yn cyhuddo Azerbaijan o ymosod ar bobol gyffredin yn ardal Kapan yn ne-ddwyrain y wlad.
Ond mae Azerbaijan wedi wfftio’r honiadau cyn cyhuddo Armenia o daro ardaloedd Terter ac Agdam â thaflegrau, ond mae Armenia hefyd yn gwadu hynny.